P-05-1043 Sicrhau bod gweithgynhyrchu a chynhyrchu cyfarpar diogelu personol (PPE) digonol ar gyfer Cymru, yng Nghymru, ar ôl Covid-19
P-05-1043 Sicrhau bod gweithgynhyrchu a chynhyrchu cyfarpar diogelu personol (PPE) digonol ar gyfer Cymru, yng Nghymru, ar ôl Covid-19
P-05-1043 Sicrhau bod gweithgynhyrchu a chynhyrchu
cyfarpar diogelu personol (PPE) digonol ar gyfer Cymru, yng Nghymru, ar ôl Covid-19
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan
Teresa Mary Carberry, ar ôl casglu cyfanswm o 127 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Mae’r
Argyfwng Corona presennol wedi tynnu sylw at ba mor annigonol yw’r mynediad at
gyfarpar diogelu personol angenrheidiol i bawb sydd ei angen, a hynny ym mha
bynnag leoliad iechyd neu ofal cymdeithasol y maent yn gweithio. Fel cenedl mae
angen i ni ddod yn hunangynhaliol a pheidio â gorfod dibynnu ar gwmnïau tramor
ac ati. Byddai hyn hefyd yn gofyn am arfarniad o ran storio, ailgyflenwi a
dosbarthu’r eitemau dan sylw, ac yn darparu cyflogaeth i lawer o bobl.
Fel
Mam i nyrs mewn Uned Gofal Dwys, rwy’n byw mewn ofn bob dydd am ei diogelwch.
Ac nid fi yw’r unig riant sy’n poeni.
Gwybodaeth
Ychwanegol
Mae sesiynau briffio newyddion dyddiol wedi
tynnu sylw at ddiffyg trallodus o gyfarpar diogelu personol i’n gweithwyr
hanfodol ym mhob lleoliad, ac mae hyn yn achosi straen gormodol, ac mewn rhai
achosion mae’n arwain at haint anochel a lledaeniad y feirws. Mae cael rhwystr
corfforol rhwng y rhai sydd â’r feirws a’r rhai sy’n gofalu amdanynt yn bwysig,
ac mae’n diogelu gweithwyr rheng flaen. Mae’n ddyletswydd ac yn gyfrifoldeb ar
bob un ohonom i sicrhau bod hyn yn bosibl. Byddai cynhyrchu cyfarpar diogelu personol
yng Nghymru at ddefnydd pawb y mae’n ofynnol iddynt eu cael, beth bynnag yw
lefel yr angen, yn gwarantu argaeledd, yn lleihau’r ôl troed carbon (dim
hediadau mewnforio ac ati) ac yn rhoi ymdeimlad o ddiogelwch mawr ei angen i’r
cyhoedd. Yn ogystal, byddai’n arwain at fod llawer o bobl yn dod o hyd i
gyflogaeth newydd, fel peirianwyr, gweithwyr warws, staff rheoli ansawdd a
gweithwyr ym maes logisteg, i enwi dim ond ychydig.
Mae llawer o bobl wedi ymateb i’r her ar hyn o
bryd, ac maen nhw’n defnyddio’u sgiliau gwnïo yn dda. Er mor gymeradwy yw hyn,
byddai gymaint yn well pe na baent wedi gorfod gwneud hynny.
Statws
Yn ei gyfarfod ar
01/12/2020 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i nodi'r ohebiaeth a gafwyd, a
boddhad y deisebydd â'r camau a amlinellwyd gan y Gweinidog Iechyd a
Gwasanaethau Cymdeithasol. Yn sgil hynny, cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb a
diolch i'r deisebydd am godi'r mater pwysig hwn.
Gellir gweld
manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau
cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei
hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 01/12/20.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Delyn
- Gogledd Cymru
Rhagor o wybodaeth
- Hafan y Pwyllgor Deisebau
- Gweld pob deiseb sydd ar agor
- Gweld pob deiseb mae’r pwyllgor bellach
yn ystyried
- Sut mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 09/11/2020