P-05-1042 Rhaid cefnogi busnesau bach a chanolig yn y diwydiant gwallt a harddwch yn ystod cyfnodau clo lleol

P-05-1042 Rhaid cefnogi busnesau bach a chanolig yn y diwydiant gwallt a harddwch yn ystod cyfnodau clo lleol

Wedi'i gwblhau

 

P-05-1042 Rhaid cefnogi busnesau bach a chanolig yn y diwydiant gwallt a harddwch yn ystod cyfnodau clo lleol

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Charlotte Louise Griffiths, ar ôl casglu cyfanswm o 1,070 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:         

Mae cyfnodau clo lleol yn cael effaith sylweddol ar fusnesau bach a chanolig.

Drwy atal cwsmeriaid rhag cael mynediad at fannau glan a chyfyngedig (sy’n cydymffurfio â chanllawiau Llywodraeth Cymru ynglŷn â’r coronafeirws), rydych yn rhwystro ein cwsmeriaid rhag ymweld â ni.

Mae hyn yn cael effaith niweidiol ar ein busnesau—effeithiau a fydd yn drychinebus os ydynt yn parhau.

 

Gwybodaeth Ychwanegol

Rydym ni yn y diwydiant gwallt a harddwch yn ddiogel.

Rydym yn gwirio tymheredd cwsmeriaid.

Rydym yn glynu wrth y defnydd o gyfarpar diogelu personol (PPE) llawn.

Rydym yn defnyddio system apwyntiadau “un i mewn, un allan”.

Er gwaethaf hyn, mae cyfnodau clo lleol yn lleihau ein sylfaen cwsmeriaid hyd at 80 y cant.

Mae gennym filiau cyfleustodau, cyflogau a rhenti llawn i'w talu o hyd.

Caniateir i ni fynd i mewn i gartref cwsmer mewn man sy’n destun cyfnod clo lleol—man nad yw’n ddiogel, felly, yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru. Fodd bynnag, ni chaniateir i’r un cwsmer ddod i mewn i'n salonau ni.

Mae angen i Lywodraeth Cymru gydnabod ein diwydiant ni fel diwydiant diogel sydd wedi’i reoleiddio.

Fel diwydiant, rydym wedi gweithio'n galed i sicrhau bod ein salonau yn ddiogel, yn cydymffurfio â’r rheolau, yn lan ac yn ddiogel i'r cyhoedd fynd i mewn iddynt.

 

 

 

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 17/11/2020 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunwyd i nodi’r ohebiaeth a ddaeth i law. Gan fod set cenedlaethol o gyfyngiadau wedi cael eu gweithredu ers cyflwyno'r ddeiseb, heb unrhyw gyfyngiadau teithio lleol yn berthnasol yng Nghymru ar hyn o bryd, a gan fod busnesau gwallt a harddwch wedi cael caniatâd i ailagor ar ôl y cyfnod atal byr, cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 17/11/2020.

 

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

  • De Caerdydd a Phenarth
  • Canol De Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

 

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 09/11/2020