P-05-1040 Cyflwyno moratoriwm ar gymeradwyo unrhyw losgyddion gwastraff newydd ar raddfa fawr yng Nghymru
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan
Amanda Jenner, ar ôl casglu 891 o lofnodion ar-lein, a 47 ar bapur, sef
cyfanswm o 938 o lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
O
ystyried yr ymdrech i ddod yn economi gylchol, ddiwastraff, dylai Llywodraeth
Cymru gyflwyno moratoriwm ar ddatblygu unrhyw losgyddion gwastraff newydd (gan
gynnwys ynni o wastraff) ac atal dilyniant unrhyw geisiadau i gynllunio llosgyddion
sydd ar y camau cyn ymgeisio/cyn cymeradwyo. Mae llosgi gwastraff yn arwain at
allyriadau, gan gynnwys CO2 nad yw’n cael ei gyfyngu ar hyn o bryd o dan
reoliadau losgyddion.
Gwybodaeth
Ychwanegol
Wrth ddatblygu ei Strategaeth Economi Gylchol, mae'n
amlwg bod y rhai a ymatebodd i’r ymgynghoriad gan Lywodraeth Cymru yn teimlo'n
gryf yn erbyn llosgi:
https://llyw.cymru/sites/default/files/consultations/2020-09/tu-hwnt-i-ailgylchu-crynodeb-o-ymatebion_1.pdf
Fel y nodir yn y linc uchod: “Er bod rhanddeiliaid
yn cytuno â dadgymell llosgi ac yn cydnabod y gallai treth llosgi leihau’r
farchnad ar gyfer peidio ag ailgylchu gwastraff, dywedwyd sawl gwaith nad yw
treth yn mynd yn ddigon pell. Wrth symud tuag at economi gylchol, roedd
ymatebwyr o’r farn y byddai llai o wastraff yn cael ei gynhyrchu ac, felly,
byddai presenoldeb llosgwyr yn anghydnaws â’r cysyniad.”
O ystyried bod llosgyddion newydd yng Nghymru ar
y cam cyn ymgeisio/cyn cymeradwyo, dylai Llywodraeth Cymru atal datblygiad
unrhyw losgyddion newydd, yn enwedig wrth iddi ddatblygu ei Strategaeth Economi
Gylchol a ddylai gynnwys ystyriaeth o’i chapasiti llosgi presennol.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 15/11/2021 penderfynodd y Pwyllgor
Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Cytunodd y Pwyllgor ei fod yn croesawu cyhoeddiad
Llywodraeth Cymru ynghylch cyflwyno moratoriwm ar ynni newydd ar raddfa fawr o
weithfeydd gwastraff, a’i fod yn gwerthfawrogi manylion pellach ynghylch y
broses.
Yn sgil y ffaith nad oedd gan y deisebydd unrhyw faterion
pellach i'w codi, cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb ac i longyfarch y
deisebydd ar sicrhau canlyniad llwyddiannus.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y
Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar
17/11/2020.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Sir Drefaldwyn
- Canolbarth a Gorllewin Cymru
Rhagor o wybodaeth
- Hafan y Pwyllgor Deisebau
- Gweld pob deiseb sydd ar agor
- Gweld pob deiseb mae’r pwyllgor bellach
yn ystyried
- Sut mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 03/11/2020