P-05-1040 Cyflwyno moratoriwm ar gymeradwyo unrhyw losgyddion gwastraff newydd ar raddfa fawr yng Nghymru

P-05-1040 Cyflwyno moratoriwm ar gymeradwyo unrhyw losgyddion gwastraff newydd ar raddfa fawr yng Nghymru

Wedi'i gwblhau

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Amanda Jenner, ar ôl casglu 891 o lofnodion ar-lein, a 47 ar bapur, sef cyfanswm o 938 o lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:         

O ystyried yr ymdrech i ddod yn economi gylchol, ddiwastraff, dylai Llywodraeth Cymru gyflwyno moratoriwm ar ddatblygu unrhyw losgyddion gwastraff newydd (gan gynnwys ynni o wastraff) ac atal dilyniant unrhyw geisiadau i gynllunio llosgyddion sydd ar y camau cyn ymgeisio/cyn cymeradwyo. Mae llosgi gwastraff yn arwain at allyriadau, gan gynnwys CO2 nad yw’n cael ei gyfyngu ar hyn o bryd o dan reoliadau losgyddion.

 

Gwybodaeth Ychwanegol

Wrth ddatblygu ei Strategaeth Economi Gylchol, mae'n amlwg bod y rhai a ymatebodd i’r ymgynghoriad gan Lywodraeth Cymru yn teimlo'n gryf yn erbyn llosgi:

https://llyw.cymru/sites/default/files/consultations/2020-09/tu-hwnt-i-ailgylchu-crynodeb-o-ymatebion_1.pdf

Fel y nodir yn y linc uchod: “Er bod rhanddeiliaid yn cytuno â dadgymell llosgi ac yn cydnabod y gallai treth llosgi leihau’r farchnad ar gyfer peidio ag ailgylchu gwastraff, dywedwyd sawl gwaith nad yw treth yn mynd yn ddigon pell. Wrth symud tuag at economi gylchol, roedd ymatebwyr o’r farn y byddai llai o wastraff yn cael ei gynhyrchu ac, felly, byddai presenoldeb llosgwyr yn anghydnaws â’r cysyniad.”

O ystyried bod llosgyddion newydd yng Nghymru ar y cam cyn ymgeisio/cyn cymeradwyo, dylai Llywodraeth Cymru atal datblygiad unrhyw losgyddion newydd, yn enwedig wrth iddi ddatblygu ei Strategaeth Economi Gylchol a ddylai gynnwys ystyriaeth o’i chapasiti llosgi presennol.

 

 

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 15/11/2021 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Cytunodd y Pwyllgor ei fod yn croesawu cyhoeddiad Llywodraeth Cymru ynghylch cyflwyno moratoriwm ar ynni newydd ar raddfa fawr o weithfeydd gwastraff, a’i fod yn gwerthfawrogi manylion pellach ynghylch y broses.

Yn sgil y ffaith nad oedd gan y deisebydd unrhyw faterion pellach i'w codi, cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb ac i longyfarch y deisebydd ar sicrhau canlyniad llwyddiannus.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 17/11/2020.

 

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

  • Sir Drefaldwyn
  • Canolbarth a Gorllewin Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

 

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 03/11/2020