P-05-1039 Dylid caniatáu i athletwyr amatur mewn ardal sydd o dan gyfyngiadau lleol barhau i hyfforddi a chael hyfforddiant y tu allan i'r ardal honno

P-05-1039 Dylid caniatáu i athletwyr amatur mewn ardal sydd o dan gyfyngiadau lleol barhau i hyfforddi a chael hyfforddiant y tu allan i'r ardal honno

Wedi'i gwblhau

 

P-05-1039 Dylid caniatáu i athletwyr amatur mewn ardal sydd o dan gyfyngiadau lleol barhau i hyfforddi a chael hyfforddiant y tu allan i'r ardal honno

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Kelly Brookin, ar ôl casglu cyfanswm o 176 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:         

Mae canolfan sglefrio Glannau Dyfrdwy ar hyn o bryd yn cael ei defnyddio fel ysbyty maes, sy’n golygu bod ein sglefrwyr yn gorfod teithio i ganolfan sglefrio Widnes gan mai honno yw’r ganolfan sglefrio agosaf. Mae rheolau cyfyngiadau lleol bellach yn eu atal rhag hyfforddi gan nad ydynt yn cael teithio allan o'r ardal. I’r rhan fwyaf o chwaraeon yn ardal y cyfyngiadau lleol mae cyfleusterau ar gael o hyd, ond nid ar gyfer sglefrio iâ. Gall peidio â gadael i'r sglefrwyr hyn hyfforddi gael effaith niweidiol ar eu lles corfforol a’u lles meddyliol.

 

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae hefyd effaith negyddol ar yr hyfforddwyr sglefrio gan eu bod yn cael teithio at ddibenion gwaith, ond byddant yn colli incwm am nad yw eu disgyblion yn cael teithio i’r gwersi.

Gadewch i’r ffaith nad oes ganddynt gyfleuster i hyfforddi fod yn esgus rhesymol iddynt gael teithio ar gyfer chwaraeon.

 

 

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 17/11/2020 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunwyd i nodi’r ohebiaeth a ddaeth i law. Gan fod set cenedlaethol o gyfyngiadau wedi cael eu gweithredu ers cyflwyno'r ddeiseb, heb unrhyw gyfyngiadau teithio lleol yn berthnasol yng Nghymru, a gan fod y cyfleuster penodol y mae’r ddeiseb yn cyfeirio ato yn cael ei gwmpasu gan reolau a wneir gan Lywodraeth y DU, cytunodd y Pwyllgor i ddiolch i’r deisebydd ac i gau’r ddeiseb.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 17/11/2020.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

  • Alun a Glannau Dyfrdwy
  • Gogledd Cymru

 

 

Rhagor o wybodaeth

 

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 03/11/2020