Determination on Members’ Pay and Allowances
Determination on Members’ Pay and Allowances
Mae'r Bwrdd
Taliadau Annibynnol yn gyfrifol am sicrhau bod gan Aelodau o'r Senedd adnoddau teg
a phriodol i gyflawni eu swydd hanfodol o gynrychioli buddiannau Cymru a’i
phobl, deddfu ar gyfer Cymru, cytuno ar drethi Cymru a dwyn Llywodraeth Cymru i
gyfrif. Mae'r rheolau sy'n ymwneud â
beth sydd ganddynt yr hawl i wneud cais amdano yn cael eu cynnwys yn y
Penderfyniad.
Adolygiad
blynyddol o’r Penderfyniad ar gyfer 2020
Mae’r Bwrdd yn
trafod yn rheolaidd a oes angen newidiadau i’r Penderfyniad cyn y flwyddyn
ariannol nesaf er mwyn sicrhau bod y pecyn taliadau’n ddigonol.
Adolygiad o
gymorth staffio i’r Aelodau
Fel rhan o’i
adolygiad o gymorth staffio i’r Aelodau, mae’r Bwrdd wedi adolygu’r dystiolaeth
sy'n ymwneud â'r lwfansau staffio a ddarperir i Aelodau, i sicrhau bod y
cymorth ariannol sydd ar gael yn cefnogi diben strategol y Senedd ac yn hwyluso
gwaith ei Aelodau, ynghyd â sicrhau bod y system cymorth ariannol i Aelodau yn
gadarn, yn glir, yn dryloyw, yn gynaliadwy ac yn cynrychioli gwerth am arian
i'r trethdalwr. Yn dilyn ymgynghoriad mae’r Bwrdd wedi cytuno ar y newidiadau
canlynol i’r Penderfyniad.
Aelodau Unigol
- Cyllidebu’r Lwfans Staffio ar y pwyntiau
cyflog gwirioneddol yn hytrach nag ar sail cyfanswm y gost fwyaf (o fis
Ebrill 2019);
- cyhoeddi cyfanswm gwariant pob Aelod unigol
o’i Lwfans Staffio (o fis Ebrill 2019).
- dileu’r cap o 111 awr ar Staff Cymorth a
gyflogir ar sail barhaol (o fis Hydref 2018)
- caniatáu i’r Aelodau drosglwyddo hyd at 25 y
cant o’u Lwfans Costau Swyddfa i’w Lwfans Staffio yn ogystal â’u lwfans
Cronfa Polisi, Ymchwil a Chyfathrebu (gweithredu fesul cam o fis Hydref
2018 tan fis Ebrill 2019).
Pleidiau
Gwleidyddol
- cyllidebu’r Lwfans Cymorth i Bleidiau
Gwleidyddol ar bwyntiau cyflog gwirioneddol yn hytrach nag ar sail
cyfanswm y gost fwyaf (o fis Ebrill 2019);
- cyhoeddi cyfanswm gwariant pob Plaid
Wleidyddol o’i Lwfans Cymorth i Bleidiau Gwleidyddol(o fis Ebrill 2019);
- dileu’r ddarpariaeth yn y Penderfyniad sy’n
caniatáu ar gyfer trosglwyddo arian o Lwfans Staffio’r Aelod i’r Lwfans
Cymorth i Bleidiau Gwleidyddol ar gyfer y Chweched Senedd. Gall Aelodau
sydd eisoes wedi sefydlu trosglwyddiad o’r fath barhau i wneud hynny tan
ddiwedd y Pumed Senedd. Fodd bynnag, ni chaniateir trefniadau trosglwyddo
newydd rhwng y lwfansau hyn.
Effeithiolrwydd y
Penderfyniad
Yn 2017,
cyhoeddodd y Bwrdd arolwg i holl Aelodau’r Cynulliad a staff cymorth Aelodau’r
Cynulliad yn ceisio eu barn am effeithiolrwydd y Penderfyniad. Caiff y
canlyniadau eu defnyddio gan y Bwrdd i lywio ei waith yn y dyfodol ar y
Penderfyniad. Cyhoeddwyd crynodeb o’r canlyniadau yn adroddiad
blynyddol y Bwrdd 2017-18.
Math o fusnes: Gwelliant
Rheswm dros ei ystyried: Bwrdd Taliadau;
Cyhoeddwyd gyntaf: 19/10/2020