NDM7304 Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Endometriosis
NDM7304 Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Endometriosis
NDM7304 Jenny Rathbone (Canol Caerdydd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod effaith
ddinistriol endometriosis sy'n effeithio ar un o bob 10 menyw yng Nghymru.
2. Yn nodi ei bod yn
cymryd, ar gyfartaledd, wyth mlynedd a 26 o apwyntiadau meddyg teulu i gael
atgyfeiriad at arbenigwr endometriosis.
3. Yn galw am fwy o
ymchwil i achosion endometriosis a thriniaethau posibl.
4. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i sicrhau bod ysgolion yn gwneud pob disgybl yn ymwybodol o'r hyn sy'n
gyfnod mislif arferol a phryd i ofyn am gyngor meddygol.
5. Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i sicrhau bod mwy o arbenigwyr endometriosis yn cael eu hyfforddi fel y
gall pob menyw gael triniaeth arbenigol yng Nghymru.
Cyd-gyflwynwyr
Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro)
Suzy Davies (Gorllewin De Cymru)
Cefnogwyr
Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)
Math o fusnes: Dadl
Cyhoeddwyd gyntaf: 03/06/2021