Craffu ar amcangyfrifon ariannol y Comisiwn Etholiadol ar gyfer 2021/22 a gynllun pum mlynedd
Craffu ar amcangyfrifon ariannol y Comisiwn Etholiadol ar gyfer 2021/22 a gynllun pum mlynedd
Bob blwyddyn,
rhaid i’r Comisiwn Etholiadol gyflwyno amcangyfrif o incwm a gwariant i’r
Pwyllgor mewn perthynas ag etholiadau a refferenda datganoledig yng Nghymru heb
fod yn hwyrach na chwe mis cyn y flwyddyn ariannol y maent yn ymwneud â hi.
Yn ogystal ag
amcangyfrifon o incwm a gwariant, rhaid i’r Comisiwn Etholiadol gyflwyno
cynllun o bryd i’w gilydd i’r Pwyllgor sy'n nodi ei nodau, ei amcanion a'i
gyllideb amcangyfrifedig ar gyfer ei swyddogaethau sy’n ymwneud ag etholiadau a
refferenda datganoledig yng Nghymru yn ystod y cyfnod dilynol o bum mlynedd.
Ar ôl cwblhau ei
waith craffu ar amcangyfrifon a chynlluniau’r Comisiwn Etholiadol, rhaid i’r
Pwyllgor osod yr amcangyfrifon a’r cynlluniau hynny gerbron y Senedd, naill ai
fel y’u cafwyd gan y Comisiwn Etholiadol neu gydag addasiadau.
Cyhoeddodd y
Pwyllgor ei Adroddiad
Blynyddol 2020-21 ar arfer swyddogaethau Pwyllgor y Llywydd ar 26 Mawrth
2021.
Mae’r Pwyllgor
wedi cyhoeddi ‘Datganiad
o Egwyddorion Cyllido’ y Comisiwn Etholiadol, sy’n adlewyrchu sut y bydd
trefniadau ariannu newydd y Comisiwn Etholiadol yn gweithio ar ddechrau
2021/22.
Math o fusnes: Craffu ar y gyllideb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 09/10/2020
Dogfennau