P-05-1038 Addasu'r neges cyfyngiadau symud lleol i "Aros yn Lleol" yn hytrach nag aros o fewn ffiniau sirol

P-05-1038 Addasu'r neges cyfyngiadau symud lleol i "Aros yn Lleol" yn hytrach nag aros o fewn ffiniau sirol

Wedi gwblhau

 

P-05-1038 Addasu’r neges cyfyngiadau symud lleol i "Aros yn Lleol" yn hytrach nag aros o fewn ffiniau sirol

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Jayne Abigail Evans, ar ôl casglu cyfanswm o 193 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:         

Mae cyfyngiadau lleol ar waith ym mhob un heblaw am 6 bwrdeistref sirol yng Nghymru. Mae 2.3 miliwn o bobl allan o 3.1 miliwn o bobl wedi'u cyfyngu i'r sir lle maen nhw’n byw. Mewn cymunedau ar ffiniau siroedd, mae hyn yn lladd busnesau ac yn achosi i unigolion deithio’n llawer pellach i gyrraedd y gwasanaethau sydd eu hangen arnynt. Byddai neges Aros yn Lleol, sy’n seiliedig ar aros o fewn eich cymunedau eich hun, yn llawer cliriach, yn ei gwneud hi’n haws i'r cyhoedd gyfyngu ar eu teithio, ac yn rhoi cyfle i fusnesau oroesi.

 

Gwybodaeth Ychwanegol

Os mai pwrpas cyfyngiadau lleol yw lleihau symudiadau, mae'n cael yr effaith i’r gwrthwyneb i hynny. Enghreifftiau:

Mae tafarn wledig yn ne Powys wedi'i gwahanu oddi wrth weddill Powys gan fynyddoedd a chymoedd, ac mae'r ddwy ffordd allan yn arwain at wahanol siroedd sydd â chyfyngiadau symud. Felly er nad oes cyfyngiadau symud yno, mae eu holl fasnach wedi diflannu.

Mae cymunedau Ystalyfera ac Ystradgynlais wedi’u cydblethu cymaint nes bod busnesau'n wynebu colli 50 y cant o'u busnes pa bynnag ochr i'r ffin maen nhw wedi’u lleoli.

Nid oes hawl gan drigolion Hirwaun yrru 6 milltir i ddychwelyd eitemau ym Marks & Spencers Merthyr Tudful, ond mae’n iawn iddynt deithio 26 milltir i’r siop yn Llantrisant, er nad ydynt erioed wedi ymweld â Llantrisant o'r blaen.

Mae plant yn cael eu cludo i'r ysgol yng Nglyn-nedd, ond ni all rhieni stopio yn y dref honno i gefnogi'r economi leol, mae angen iddynt yrru 10 milltir arall i Ystradgynlais cyn teithio 14 milltir yn ôl adref.

Mae hanner pentref Pontneddfechan ym Mhowys a’r hanner arall yng Nghastell-nedd Port Talbot. Mae’n siŵr nad yw gorfodi pobl i fynd ALLAN o’u hardaloedd arferol yn effeithiol o ran atal lledaeniad Covid.

 

A tree in a forest

Description automatically generated

 

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 17/11/2020 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunwyd i nodi’r ddeiseb a’r ohebiaeth a ddaeth i law. Cytunodd y Pwyllgor i beidio â chymryd unrhyw gamau pellach ar y sail bod set cenedlaethol o gyfyngiadau wedi cael eu gweithredu ers cyflwyno'r ddeiseb, heb unrhyw gyfyngiadau teithio lleol yn berthnasol yng Nghymru ar hyn o bryd. Wrth wneud hynny, cytunodd y Pwyllgor i ddiolch i’r deisebydd ac i gau’r ddeiseb.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 17/11/2020.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

  • Brycheiniog a Sir Faesyfed
  • Canolbarth a Gorllewin Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

 

 

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 02/11/2020