P-05-1033 Dylid diddymu ffioedd cofrestru Cyngor y Gweithlu Addysg (EWC) a diwygio ei drefniant yn llwyr
P-05-1033 Dylid diddymu ffioedd cofrestru Cyngor y Gweithlu Addysg (EWC) a diwygio ei drefniant yn llwyr
P-05-1033 Dylid diddymu ffioedd cofrestru Cyngor y
Gweithlu Addysg (EWC) a diwygio ei drefniant yn llwyr
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan
Robert Jeffrey Southall, ar ôl casglu cyfanswm o 371 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Mae’r
tâl cofrestru yn atchweliadol a chaiff ei ddidynnu o’n cyflogau ar ran Cyngor y
Gweithlu Addysg a’r Llywodraeth. Mae’r un peth os ydych chi’n gweithio amser llawn,
yn gyfrannol neu’n gweithio rhan-amser. Mae’r tâl yn dreth ar weithwyr addysg
proffesiynol. Nid yw Cyngor y Gweithlu Addysg yn gorff cynrychioliadol ac mae
wedi methu â darparu datblygiad proffesiynol parhaus cynhwysfawr na
bwrsariaethau a addawyd ar gyfer gwella gyrfa. Nid yw’n atebol i’w gofrestreion
nac yn eu cynrychioli. Corff rheoleiddio ydyw, sy’n atebol i’r Gweinidog yn
unig, felly ni ddylai godi unrhyw dâl cofrestru.
Gwybodaeth
Ychwanegol
Y tâl cofrestru blynyddol yw £45 ac mae’r
tâl yn llai, sef £15, i weithwyr cefnogol. Mae’r tâl yr un peth os ydych chi’n
gweithio amser llawn, yn gyfrannol neu’n gweithio rhan-amser. Mae’r gost am
gofrestru yn seiliedig ar flwyddyn dreth rhwng mis Ebrill a mis Mawrth, felly
rhaid i’r rheini sydd ar eu blwyddyn gyntaf o ddysgu neu o waith ieuenctid, neu
rai sydd ar gontractau tymor byr, dalu ddwywaith sef ym mis Medi ac ym mis
Ebrill. Nid oes cost rhannol ar gyfer pobl sydd ar gontractau cyfyngedig. Nid
yw Cyngor y Gweithlu Addysg yn gorff cynrychioliadol nac yn gymdeithas
broffesiynol ar gyfer y rhai y mae’n eu cofrestru. Nid yw Cyngor y Gweithlu
Addysg yn atebol yn ddemocrataidd i’w gofrestreion ac nid yw ei gorff
llywodraethu yn gynrychioliadol o’r rhai y mae’n eu cofrestru. Nid yw athrawon
ym maes Addysg Uwch a’r sector preifat yn cael eu rheoleiddio gan Gyngor y
Gweithlu Addysg ac nid ydynt yn talu dim tâl cofrestru, ac nid oes yn rhaid i’r
mwyafrif helaeth o benaethiaid ysgolion a rheolwyr ym maes Addysg Bellach, sef
y staff ar y cyflogau uchaf yn y sector, gofrestru na thalu’r gost hyd yn oed
os oes ganddynt gyswllt cyson a hir â dysgwyr. Mae hyn yn amlwg yn annheg, ac
rydym yn galw am ddileu yn llwyr holl daliadau cofrestru Cyngor y Gweithlu
Addysg.
Statws
Yn ei gyfarfod ar
12/01/2021 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Nododd y Pwyllgor
fod y deisebydd yn anfodlon â’r ymatebion a ddaeth i law o ran y ddeiseb. Fodd
bynnag, yn sgil y wybodaeth a ddaeth i law a’r ymateb blaenorol gan y Gweinidog
Addysg, cytunodd y Pwyllgor nad oedd llawer o gamau y gallai eu cymryd mewn
cysylltiad â’r ddeiseb ar hyn o bryd. Felly, cytunodd i gau’r ddeiseb a diolch
i’r deisebydd.
Gellir gweld
manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau
cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei
hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 03/11/2020.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Islwyn
- Dwyrain De Cymru
Rhagor o wybodaeth
- Hafan y Pwyllgor Deisebau
- Gweld pob deiseb sydd ar agor
- Gweld pob deiseb mae’r pwyllgor bellach
yn ystyried
- Sut mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 15/10/2020