Craffu ar Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Archwilydd Cyffredinol Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru ar gyfer 2019-20 a'r Amcangyfrif ar gyfer 2021-22

Craffu ar Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Archwilydd Cyffredinol Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru ar gyfer 2019-20 a'r Amcangyfrif ar gyfer 2021-22

Rhaid i Swyddfa Archwilio Cymru ac Archwilydd Cyffredinol Cymru ar y cyd osod eu hamcangyfrif o incwm a gwariant ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf gerbron y Senedd, fel sy’n ofynnol o dan Adran 20 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013. O dan Reol Sefydlog 20.22, rhaid i’r Pwyllgor Cyllid graffu ar eu hamcangyfrif, a gosod adroddiad gerbron y Senedd sy’n cynnwys yr amcangyfrif, gydag unrhyw addasiadau y mae’n eu hystyried yn briodol, ar ôl ymgynghori â Swyddfa Archwilio Cymru ac Archwilydd Cyffredinol Cymru.

 

Gosododd Swyddfa Archwilio Cymru ac Archwilydd Cyffredinol Cymru eu hamcangyfrif ar gyfer 2021-22 (PDF, 263KB) gerbron y Senedd ym mis Hydref 2020.

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad ar ei waith craffu blynyddol ar Swyddfa Archwilio Cymru ac Archwilydd Cyffredinol Cymru (PDF, 790KB) ar 20 Tachwedd 2020.

 

 

Math o fusnes: Craffu ar y gyllideb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 02/11/2020

Dogfennau