10 Cyfle i Ailosod ac Ailgychwyn System Gofal wedi’i Gynllunio y GIG
10 Cyfle i Ailosod ac Ailgychwyn System Gofal wedi’i Gynllunio y GIG
Cyhoeddodd Archwilydd Cyffredinol Cymru yr Adroddiad
hwn ym mis Medi 2020
Pan gyflwynwyd y cyfyngiadau symud yn y DU ym mis
Mawrth 2020, roedd Archwilio Cymru yn cwblhau gwaith ar ddilyn y cynnydd a
wnaed ers cyhoeddi adroddiadau ar amseroedd aros am ofal wedi’i gynllunio a
gwasanaethau orthopedig yn 2015. Mae’r adroddiad hwn yn defnyddio
canfyddiadau’r gwaith archwilio hwnnw ac yn ail-fframio’r negeseuon allweddol i
lywio cynlluniau sy’n dod i’r amlwg ar gyfer ailgychwyn gwasanaethau gofal
wedi’i gynllunio, yn ogystal â thrafodaethau ehangach ar sut siâp fydd ar y GIG
ar ôl COVID-19.
Mae’r adroddiad yn awgrymu deg cyfle a allai helpu
i greu newidiadau cynaliadwy i system gofal wedi’i gynllunio y GIG, mewn ffordd
sy’n cyd-fynd â’r pum ffordd o weithio a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r
Dyfodol (Cymru) 2015.
Mae gofal wedi’i gynllunio, sydd hefyd yn cael ei
alw’n ofal dewisol, yn cynnwys diagnosis a thriniaeth i gleifion mewn ffordd
sydd wedi’i chynllunio o ran gofal eilaidd, ar ôl iddynt gael eu hatgyfeirio
gan feddyg teulu neu gan weithiwr iechyd proffesiynol arall. Un o nodweddion
allweddol gofal wedi’i gynllunio yw bod cleifion fel arfer yn aros wythnosau
neu fisoedd am eu diagnosis a’u triniaeth. Mae gofal wedi’i gynllunio yn cael
ei gyferbynnu â gofal heb ei drefnu, sy’n cwmpasu gofal brys nad yw wedi’i
gynllunio, er enghraifft drwy adrannau damweiniau ac achosion brys.
Nododd y Pwyllgor
Cyfrifon Cyhoeddus yr Adroddiad hwn ym mis Tachwedd 2020.
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 03/12/2020