P-05-1027 Caniatáu clybiau pêl-droed domestig Cymru i chwarae gemau cyfeillgar, a chaniatáu cefnogwyr i fynd i'r gemau
P-05-1027 Caniatáu clybiau pêl-droed domestig Cymru i
chwarae gemau cyfeillgar, a chaniatáu cefnogwyr i fynd i’r gemau
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan
Callum Howen, ar ôl casglu cyfanswm o 2,045 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Ar
hyn o bryd, dim ond athletwyr ‘elitaidd’ all chwarae gemau pêl-droed yng
Nghymru. Caiff y gemau eu chwarae dan glo, heb unrhyw un yno’n gwylio.
Yn
Lloegr, mae clybiau islaw’r chweched lefel bellach yn caniatáu i nifer
cyfyngedig o bobl fynd i wylio gemau cyfeillgar ac yn yr Alban, mae’r ffans
wedi dychwelyd i gemau’r PRO14.
Cyn
belled â bod clybiau’n bodloni’r canllawiau a gyflwynwyd, dylen nhw gael yr
hawl i chwarae gemau cyfeillgar gyda phobl yno’n eu gwylio.
Gwybodaeth
Ychwanegol
Y
tymor diwethaf, roedd dros 500 o bobl, ar gyfartaledd, yn mynd i wylio gemau
Caernarfon.
Gadewch i glybiau Cymru gael torfeydd o 500.
https://www.footballwebpages.co.uk/welsh-premier-league/attendances/2019-2020
Statws
Yn ei gyfarfod ar 16/03/2021
penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon
wedi'i chwblhau.
Caewyd y ddeiseb fel rhan o adolygiad o'r holl ddeisebau sy'n cael eu
hystyried ar hyn o bryd yng nghyfarfod olaf y Pwyllgor Deisebau yn y Bumed
Senedd, yng ngoleuni'r etholiad sydd i ddod a'r ystyriaeth a roddwyd i'r mater
hwn hyd yma.
Gellir gweld manylion llawn
ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y
tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei hystyried
gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 13/10/2020.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Ceredigion
- Canolbarth a Gorllewin Cymru
Rhagor o wybodaeth
- Hafan y Pwyllgor Deisebau
- Gweld pob deiseb sydd ar agor
- Gweld pob deiseb mae’r pwyllgor bellach
yn ystyried
- Sut mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 05/10/2020