P-05-1026 Deiseb i wahardd maglu bywyd gwyllt i'w defnyddio yn y fasnach ffwr

P-05-1026 Deiseb i wahardd maglu bywyd gwyllt i'w defnyddio yn y fasnach ffwr

Wedi'i gwblhau

 

P-05-1026 Deiseb i wahardd maglu bywyd gwyllt i’w defnyddio yn y fasnach ffwr

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan National Anti Snaring Campaign, ar ôl casglu cyfanswm o 2,481 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:         

​Er y cafodd ffermio ffwr ei wahardd yn y DU yn 2000, mae maglu ffwr yn parhau i fod yn gyfreithlon yn achos rhai anifeiliaid gwyllt fel llwynogod, cwningod a mincod.

 

Rydym yn ymgyrchu i gau’r bwlch hwn i atal dioddefaint i fwy o anifeiliaid yn y maglau barbaraidd hyn, a chael eu lladd mewn ffordd greulon a’u blingo am eu crwyn.

 

Rydym yn gofyn am ddileu’r arfer o ddal anifeiliaid gwyllt mewn maglau i’w defnyddio yn y fasnach ffwr, a bod yr awdurdodau priodol yn cefnogi’r gyfraith ac yn monitro’r sefyllfa’n ofalus.

 

Gwybodaeth Ychwanegol

​Crëwyd y ddeiseb hon mewn ymateb i achos diweddar a welwyd o faglwr ffwr yng Nghymru yn gwbl agored a bwriadol yn maglu llwynogod, yn eu curo i farwolaeth ac yn eu blingo er mwyn gwerthu eu crwyn yn y fasnach ffwr dramor.

 

 

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 09/02/2021 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a ddaeth i law ac, o ystyried bod Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyflwyno Papur Gwyn ar gyfer Bil Amaethyddiaeth yn ystod tymor nesaf y Senedd, cytunodd nad oedd unrhyw gamau pellach y gallai eu cymryd cyn etholiadau Senedd 2021. Cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb, gan ddiolch i’r deisebydd.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 13/10/2020.

 

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

  • De Clwyd
  • Gogledd Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

 

 

 

 

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 05/10/2020