P-05-1022 Dilyn Llywodraeth yr Alban a dysgu hanes LGBTQ Cymru ym mhob ysgol yng Nghymru
P-05-1022 Dilyn Llywodraeth yr Alban a dysgu hanes LGBTQ
Cymru ym mhob ysgol yng Nghymru
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan
Natalie Bowen, ar ôl casglu cyfanswm o 116 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Fel
rhywun a dreuliodd ei hieuenctid yng nghysgod Adran 28, mae prinder addysg
LGBTQ+ yn yr ysgolion wedi effeithio ar fy mywyd cyfan. Mae’n annerbyniol i’r
genhedlaeth nesaf o bobl LGBTQ+ dreulio’u hieuenctid hwythau yn yr un modd. Mae
gan Gymru hanes LGBTQ+ cyfoethog ac amrywiol ac rydym yn credu y gellid creu
amgylchedd mwy diogel a mwy goddefgar i bawb pe bai’n cael ei ddysgu mewn
ysgolion.
Gwybodaeth
Ychwanegol
Norena Shopland yw’r hanesydd LGBTQ mwyaf
blaenllaw yn y byd. Mae ganddi fwy na digon o wybodaeth i fedru cynorthwyo’r
llywodraeth yn y cyswllt hwn.
Statws
Yn
ei gyfarfod ar 13/10/2020 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon
wedi'i chwblhau.
Ystyriodd
y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i nodi'r ddeiseb a'r ymatebion
a gafwyd, gan gynnwys boddhad eang y deisebwyr. Yng ngoleuni'r blaenoriaethu o
ran hyblygrwydd pynciau a addysgir yn y cwricwlwm newydd a chyflwyno Addysg
Cydberthynas a Rhywioldeb statudol, cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu yn ôl at y
Gweinidog Addysg i bwysleisio pwysigrwydd ymdrin â'r mater hwn a chau'r
ddeiseb.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y
pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau
ar 13/10/2020.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Rhondda
- Canol De Cymru
Rhagor o wybodaeth
- Hafan y Pwyllgor Deisebau
- Gweld pob deiseb sydd ar agor
- Gweld pob deiseb mae’r pwyllgor bellach
yn ystyried
- Sut mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 07/09/2020