P-05-1021 Peidiwch â gwneud mygydau na gorchuddion wyneb yn orfodol mewn DIM ysgolion (gan gynnwys ysgolion uwchradd)
P-05-1021 Peidiwch â gwneud mygydau na gorchuddion wyneb
yn orfodol mewn DIM ysgolion (gan gynnwys ysgolion uwchradd)
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan
Lindsey Jones, ar ôl casglu cyfanswm o 214 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Mae
cymaint o dystiolaeth sy’n awgrymu nad yw mygydau wyneb yn atal feirysau, gan
gynnwys y coronafeirws/COVID-19, rhag lledaenu. Mae mygydau’n achosi rhagor o
gyffwrdd wynebau’n barhaus a fydd yn lledaenu unrhyw bathogenau sydd ar y
mwgwd. Ymhellach, dyfynnir Dr Jenny Harries, a ddywedodd: “Oherwydd ymddygiad
dynol, gall pobl roi eu hunain mewn rhagor o berygl o’r feirws, nid llai o
berygl, o’u gwisgo.”
Mae
llawer o feddygon a gweithwyr iechyd proffesiynol wedi lleisio eu barn a dweud
bod mygydau yn cyfrannu at ledaeniad feirysau.
Gwybodaeth
Ychwanegol
https://wwwnc.cdc.gov/eid/article/26/5/19-0994_article
https://swprs.org/face-masks-evidence/
https://bmjopen.bmj.com/content/5/4/e006577
Statws
Yn ei gyfarfod ar
17/11/2020 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Trafododd y
Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am y ddeiseb a, gan gydnabod y ffaith nad yw
gorchuddion wyneb yn orfodol mewn ysgolion ar hyn o bryd, a diffyg cysylltiad
pellach gan y deisebydd, cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb.
Gellir gweld
manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau
cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei
hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 13/10/2020.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Mynwy
- Dwyrain De Cymru
Rhagor o wybodaeth
- Hafan y Pwyllgor Deisebau
- Gweld pob deiseb sydd ar agor
- Gweld pob deiseb mae’r pwyllgor bellach
yn ystyried
- Sut mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 30/09/2020