P-05-1019 Dyfarnwch raddau a ragwelwyd gan athrawon i holl fyfyrwyr Cymru ar gyfer arholiadau 2020
P-05-1019 Dyfarnwch raddau a ragwelwyd gan athrawon i holl fyfyrwyr Cymru ar gyfer arholiadau 2020
P-05-1019 Dyfarnwch raddau a ragwelwyd gan athrawon i
holl fyfyrwyr Cymru ar gyfer arholiadau 2020
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Christine
Wineyard, ar ôl casglu cyfanswm o 28,505 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Mae
nifer sylweddol o fyfyrwyr Cymru wedi bod dan anfantais annheg oherwydd yr
algorithm mathemategol a gymhwyswyd iddynt ar gyfer canlyniadau arholiadau
2020. Bydd hyn yn rhoi pobl ifanc Cymru dan anfantais ar gyfer eu cyfleoedd
bywyd yn y dyfodol, sy’n annheg. Mae myfyrwyr yn yr Alban yn cael graddau a
ragwelwyd gan athrawon, felly byddant yn fwy tebygol o sicrhau lle yn eu dewis
cyntaf o brifysgol yn 2020. Ni fydd hyn yn wir i fyfyrwyr Cymru. Nid yw’r
broses yn trin myfyrwyr Cymru fel unigolion.
Statws
Yn ei gyfarfod ar
15/09/2020 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Trafododd
y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf ac, yn sgil y penderfyniadau a wnaed gan
Llywodraeth Cymru a gan fod y deisebydd wedi’i fodloni, cytunodd y Pwyllgor i
gau'r ddeiseb.
Gellir
gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r
dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd
ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 15/09/2020.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Alun a Glannau Dyfrdwy
- Gogledd Cymru
Rhagor o wybodaeth
- Hafan y Pwyllgor Deisebau
- Gweld pob deiseb sydd ar agor
- Gweld pob deiseb mae’r pwyllgor bellach
yn ystyried
- Sut mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 01/09/2020