Rhaglen cael gwared ar Asbestos o Ysbyty Glan Clwyd
Rhaglen cael gwared ar Asbestos o Ysbyty Glan Clwyd
Cyhoeddodd
Archwilydd Cyffredinol Cymru yr adroddiad
hwn ym mis Medi 2020.
Cafodd Ysbyty Glan
Clwyd ei ddylunio a’i adeiladu yn y 1970au, ac er yr ymwybyddiaeth gynyddol
bryd hynny o’r risgiau o ran iechyd sy’n gysylltiedig ag asbestos, yn ogystal
â’r rheoliadau cysylltiedig a gyflwynwyd, roedd asbestos yn parhau i gael ei
ddefnyddio’n helaeth mewn adeiladau fel arafwr tân. Cafodd fframwaith dur yr
ysbyty ei orchuddio ag asbestos wedi’i chwistrellu.
Yn 2012,
cymeradwyodd Llywodraeth Cymru brosiect gan y bwrdd iechyd i gael gwared ar yr
asbestos ac adnewyddu’r ysbyty. Cafodd pecyn cyllid o £110.4 miliwn dros wyth
blwyddyn ariannol ei gytuno ar gyfer y prosiect. Cwblhawyd y prosiect yn 2019,
gan gadw’n weddol agos at yr amserlen, ond am gost o £170.8 miliwn, sef bron i
55 y cant yn fwy na’r gyllideb a gytunwyd yn wreiddiol.
Mae llawer o’r
adroddiad yn trafod materion hanesyddol, ac mae Llywodraeth Cymru a’r bwrdd
iechyd eisoes wedi cymryd camau i gryfhau eu dulliau o reoli a chymeradwyo
prosiectau cyfalaf.
Cytunodd y
Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus i drafod beth aeth o’i le gyda’r prosiect hwn, yn
ogystal â’r camau a gymerwyd gan y bwrdd iechyd a Llywodraeth Cymru i atal yr
un peth rhag digwydd eto. O ganlyniad i’r argyfwng iechyd cyhoedus, ceisiodd y
Pwyllgor safbwyntiau’r Bwrdd Iechyd drwy ohebiaeth ysgrifenedig.
Math o fusnes: Arall
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 17/08/2020
Dogfennau
- Llythyr gan y Cadeirydd at Brif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr - 5 Chwefror 2021 PDF 138 KB
- Ymateb gan Brif Weithredwr Dros Dro Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr at Gadeirydd y Pwyllgor - 16 Rhagfyr 2020 PDF 480 KB
- Llythyr gan y Cadeirydd at Brif Weithredwr Dros Dro Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr - 6 Tachwedd 2020 PDF 175 KB