P-05-1014 Rhowch statws "gweithiwyr allweddol" i bractisau deintyddol a'u staff
P-05-1014 Rhowch statws “gweithiwyr
allweddol” i bractisau deintyddol a'u staff
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Owain Dimmick, ar ôl casglu
cyfanswm o 233 lofnodion.
Geiriad
y ddeiseb:
Yn ystod cyfnod
cychwynnol y Coronafeirws, er syndod mawr i bractisau deintyddol, cawsom ein
categoreiddio fel sefydliadau sy’n darparu gwasanaethau meddygol nad ydynt yn
rai hanfodol, a hynny er gwaethaf y ffaith ein bod yn achub bywydau drwy
ddarparu gofal brys i bobl sydd wedi’u heintio a thrwy ganfod achosion o ganser
y geg yn gynnar. Mae risgiau systemig enfawr yn gysylltiedig ag iechyd y geg
gwael na ellir eu hanwybyddu. Yn ogystal, nid ydym am fod mewn sefyllfa eto lle
gallai ein cleifion orfod dioddef poen yn sgil rheoliadau gan Lywodraeth Cymru
sy’n cyfyngu'n ddifrifol ar yr ystod o driniaethau brys sy'n bosibl.
Gwybodaeth Ychwanegol
Am ddegawdau, mae
deintyddiaeth wedi arwain y ffordd o ran rheoli achosion o draws-heintio a
defnyddio cyfarpar diogelu personol (PPE). Ynghyd â chreu mannau aros lle
gellir cadw pellter cymdeithasol, mae practisau deintyddol bellach wedi sicrhau
bod ganddynt PPE o’r radd flaenaf, gan gynnwys anadlyddion a gynau llawn, a
hynny er mwyn sicrhau eu bod yn amddiffyn eu hunain, eu staff a'u cleifion, gan
liniaru'r risgiau waeth beth yw’r gyfradd heintio yn yr ardal dan sylw.
A wnewch chi gefnogi ein
hymdrechion i barhau i ofalu am ein cleifion a darparu’r triniaethau deintyddol
yr ydym yn barnu eu bod yn briodol, hyd yn oed os bydd cyfyngiadau symud lleol
neu genedlaethol yn cael eu hailgyflwyno?
Statws
Yn ei gyfarfod ar
03/11/2020 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Trafododd y
Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am y ddeiseb a, gan fod y deisebydd yn fodlon
â’r ymateb gan y Gweinidog, cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb.
Gellir gweld
manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau
cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei
hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 13/10/2020.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Ceredigion
- Canolbarth a Gorllewin Cymru
Rhagor o wybodaeth
- Hafan y Pwyllgor Deisebau
- Gweld pob deiseb sydd ar agor
- Gweld pob deiseb mae’r pwyllgor bellach
yn ystyried
- Sut mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 09/09/2020