P-05-1006 Rhyddhau'r £59 miliwn o bunnoedd i'r celfyddydau er mwyn atal lleoliadau cerddoriaeth lleol ar lawr gwlad rhag cau
P-05-1006 Rhyddhau'r £59 miliwn o bunnoedd i'r celfyddydau er mwyn atal lleoliadau cerddoriaeth lleol ar lawr gwlad rhag cau
P-05-1006 Rhyddhau'r £59 miliwn o bunnoedd i'r
celfyddydau er mwyn atal lleoliadau cerddoriaeth lleol ar lawr gwlad rhag cau
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan
Neil Bates, ar ôl casglu cyfanswm o 100 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Mae
llawer o'r lleoliadau celfyddydol ac adloniant yn wynebu cael eu cau yn fuan.
Oni bai fod Llywodraeth Cymru yn dechrau trefnu cymorth yn syth drwy ddyrannu’r
£59 miliwn o bunnoedd sydd ganddi ar gyfer y diwydiant bydd llawer o leoliadau
yn cau.
Gwybodaeth
Ychwanegol
Yn
anffodus, mae adloniant a'r celfyddydau fel petaent ar waelod blaenoriaethau
Llywodraeth Cymru. Ychydig iawn o drafod sy'n digwydd ac mae diffyg gwybodaeth
dim ond yn ychwanegu at y broblem.
Cefnogwch
y diwydiant adloniant drwy arwyddo'r ddeiseb hon cyn i ddiwydiant hanfodol
arall gael ei golli yn eich ardal chi a mwy o bobl wynebu diweithdra. Mae'n
bryd i Lywodraeth Cymru ddangos cefnogaeth.
Statws
Yn ei gyfarfod ar
17/11/2020 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Trafododd y
Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am y ddeiseb a chytunodd i gau’r ddeiseb ar y
sail nad oes llawer mwy y gellid ei wneud ar hyn o bryd, yn sgil y cymorth
ariannol sydd bellach ar gael i gefnogi lleoliadau cerddoriaeth fyw a
goruchwyliaeth barhaus y grŵp
rhanddeiliaid cerddoriaeth COVID-19 yn y maes hwn.
Gellir gweld
manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau
cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei
hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 29/09/2020.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro
- Canolbarth a Gorllewin Cymru
Rhagor o wybodaeth
- Hafan y Pwyllgor Deisebau
- Gweld pob deiseb sydd ar agor
- Gweld pob deiseb mae’r pwyllgor bellach
yn ystyried
- Sut mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 03/09/2020