Ymchwiliad i’r achosion o COVID-19 ac effaith y feirws ar ddiwylliant, y diwydiannau creadigol, treftadaeth, cyfathrebu a chwaraeon
Bu’r ymchwiliad
yn ystyried effaith yr achosion, ac effaith rheoli’r achosion ar sectorau sy’n
rhan o gylch gwaith y Pwyllgor
Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, gan gynnwys:
>>>>
>>>diwylliant
a’r diwydiannau creadigol;
>>>treftadaeth;
>>>y
cyfryngau cenedlaethol a chymunedol, gan gynnwys radio cymunedol;
>>>newyddiaduraeth;
ac,
>>>at
ddibenion yr ymchwiliad hwn, byddwn hefyd yn edrych ar chwaraeon ar lefel lawr
gwlad ac elitaidd.
<<<<
Bu’r Pwyllgor yn
edrych yn fanwl ar yr ymateb gan Lywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus
perthnasol. Bu hefyd yn ystyried ymateb Cymru yng nghyd-destun ehangach y DU.
Yn benodol, roedd
gan y Pwyllgor ddiddordeb mewn darganfod:
>>>>
>>>Beth
fu effaith uniongyrchol Covid-19 ar y sector?
>>>Pa
mor effeithiol y mae’r gefnogaeth a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru,
Llywodraeth y DU a chyrff hyd braich wedi mynd i’r afael ag anghenion y sector?
>>>Beth
fydd effeithiau hirdymor tebygol Covid-19 ar y sector, a pha gefnogaeth sydd ei
hangen i ymdrin â’r rheini?
>>>Pa
wersi y gellir eu dysgu o’r ffordd y mae Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU,
cyrff hyd braich a’r sector wedi ymdrin â Covid-19?
>>>Sut
mae modd i’r sector esblygu ar ôl Covid-19, a sut y gall Llywodraeth Cymru
gefnogi arloesedd o’r fath i ymdrin â heriau yn y dyfodol?
<<<<
Math o fusnes: Arall
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 10/08/2020
Dogfennau
- Ymateb y Prif Weinidog i'r Pwyllgor Craffu - Chwefror 2021
PDF 273 KB
- Ymateb y Prif Weinidog i'r Pwyllgor Craffu - Gorffennaf 2020
PDF 371 KB
Ymgynghoriadau