P-05-999 Sicrhau bod pob ysgol gynradd yn cadw pellter cymdeithasol o 1 metr fan lleiaf ym mis Medi 2020
P-05-999 Sicrhau bod pob ysgol gynradd yn cadw pellter cymdeithasol o 1 metr fan lleiaf ym mis Medi 2020
P-05-999 Sicrhau bod pob ysgol gynradd yn cadw pellter
cymdeithasol o 1 metr fan lleiaf ym mis Medi 2020
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan
Laura Denise Keighan, ar ôl casglu cyfanswm o 124 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Rhaid
amddiffyn ein plant, ac amddiffyn ein GIG.
Nid
yw'n gyfrinach bod ein GIG yn ei chael hi’n anodd ymdopi â phwysau'r gaeaf bob
blwyddyn, gan gynnwys y ffliw tymhorol, a bod ysbytai'r DU yn llawn o ganlyniad
i’r pwysau hyn. Bob blwyddyn, mae ein sianeli newyddion a’n ffrydiau newyddion
yn llawn straeon am y pwysau hyn. Byddai cynnydd sydyn mewn achosion o’r
coronafeirws yn rhoi pwysau ychwanegol ar y GIG, gan arwain, o bosibl, at
chwalu’r system. Er gwaethaf hyn, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu anfon ein
plant yn ôl i’r ysgol, a hynny heb fesurau cadw pellter cymdeithasol i'w
hamddiffyn.
Gwybodaeth
Ychwanegol
Mae
tystiolaeth yn dangos bod angen lefel o normalrwydd ar blant er mwyn atal
problemau iechyd meddwl a sicrhau ffyrdd iach o fyw iddynt. Gan gydnabod hyn, a
chadw mewn cof y peryglon sy’n wynebu ein plant a’r GIG, rwy'n annog
Llywodraeth Cymru i ailystyried ei chynnig, ac i ystyried cynnig cyfuniad o
addysg gartref ffurfiol, drwy ddysgu o bell, a pharhau â’r fodel “swigen”, sy'n
hwyluso mesurau cadw pellter cymdeithasol. Byddai hyn yn caniatáu i blant
ddychwelyd i'r ysgol yn rhan amser, ond byddai hefyd yn caniatáu iddynt
ymgymryd ag astudiaethau ffurfiol amser llawn. Rwy'n cynnig y dylai'r dull hwn
gael ei weithredu hyd at dymor y gwanwyn, pan fydd y cyfnod blynyddol o
bwysau'r gaeaf wedi pasio.
Statws
Yn ei gyfarfod ar
17/11/2020 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Trafododd y
Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am y ddeiseb a, gan gydnabod yr holl ohebiaeth
a gafwyd hyd yma, a diffyg cysylltiad pellach gan y deisebydd yn ddiweddar,
cytunodd i gau'r ddeiseb.
Gellir gweld
manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau
cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei
hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 15/09/2020.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Pen-y-bont at Ogwr
- Gorllewin De Cymru
Rhagor o wybodaeth
- Hafan y Pwyllgor Deisebau
- Gweld pob deiseb sydd ar agor
- Gweld pob deiseb mae’r pwyllgor bellach
yn ystyried
- Sut mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 24/08/2020