NDM7356 Dadl Plaid Cymru - Cymru Annibynnol
NDM7356 Sian Gwenllian (Arfon)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi bod pobl Cymru wedi croesawu’r
gallu i Gymru weithredu’n annibynnol yn ystod yr argyfwng coronafeirws.
2. Yn cydnabod llwyddiant gwledydd annibynnol
o faint tebyg i Gymru wrth ddelio gyda’r feirws.
3. Yn credu y byddai annibynniaeth yn rhoi
mwy o hyblygrwydd a gwydnwch i Gymru wrth ymateb i heriau yn y dyfodol.
4. Yn nodi’r gefnogaeth gynyddol i Alban
annibynnol ac Iwerddon unedig.
5. Yn cadarnhau hawl pobl Cymru i
benderfynu a ddylai Cymru ddod yn wlad annibynnol.
6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i geisio’r hawl
gyfansoddiadol i ganiatau i’r Senedd ddeddfu yn ystod y tymor nesaf i gynnal
refferendwm gyfrwymol ar annibynniaeth.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cefnogi datganoli i Gymru.
2. Yn cydnabod y manteision i Gymru o fod yn
rhan o'r Deyrnas Unedig.
3. Yn croesawu'r gefnogaeth sylweddol y mae
Llywodraeth Ei Mawrhydi wedi'i rhoi i gynorthwyo gyda'r ymateb i'r pandemig
coronafeirws yng Nghymru, gan gynnwys:
a) £2.8 biliwn wedi'i ddyrannu i gefnogi
ymyriadau mewn materion datganoledig;
b) cymorth ar gyfer mwy na 316,500 o swyddi
drwy'r Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws;
c) cymorth i fwy na 102,000 o bobl drwy'r
Cynllun Cymorth Incwm i’r Hunangyflogedig drwy gyfnod Coronafeirws;
d) cyllid brys ar gyfer y diwydiant dur;
e) Bonws Cadw Swyddi i annog cyflogwyr i
ddiogelu swyddi gweithwyr sydd ar ffyrlo;
f) Cynllun Kickstart ar gyfer ceiswyr gwaith
ifanc;
g) gostyngiad mewn TAW ar gyfer busnesau
twristiaeth a lletygarwch;
h) Cynllun Bwyta Allan i Helpu Allan er mwyn
cynorthwyo caffis, bwytai a thafarndai; ac
i) cyllid i ddatgarboneiddio adeiladau sector
cyhoeddus Llywodraeth y DU yng Nghymru.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i barhau i
gydweithredu â Llywodraeth Ei Mawrhydi i ddiogelu bywydau a bywoliaethau yng
Nghymru yn ystod y pandemig coronafeirws.
[Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2, 3, a 4 eu
dad-ddethol]
Gwelliant 2 - Neil Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
Yn credu:
a) bod datganoli, drwy unrhyw fesur rhesymol,
wedi methu; a
b) bod y gefnogaeth dros ddileu'r Senedd yn
fwy na'r gefnogaeth dros annibyniaeth wleidyddol Cymru o'r DU.
[Os derbynnir gwelliant 2, caiff gwelliannau 3
a 4 eu dad-ddethol]
Gwelliant 3 - Gareth Bennett (Canol De Cymru)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi bod y gwahanol bolisïau o ran
cyfyngiadau symud a gyflwynwyd gan wahanol lywodraethau ledled y Deyrnas Unedig
wedi arwain at ddryswch.
2. Yn cydnabod mai yr unig gwir wydnwch
economaidd y mae Cymru yn ei fwynhau yw fel rhan o'r Deyrnas Unedig.
3. Yn nodi refferendwm annibyniaeth yr Alban
yn 2014, a arweiniodd at yr Alban yn pleidleisio dros aros yn rhan o'r Deyrnas
Unedig.
4. Yn cadarnhau hawl pobl Cymru i benderfynu
a yw Cymru'n parhau i fod â llywodraeth ddatganoledig.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i geisio hawl
gyfansoddiadol i ganiatáu i'r Senedd ddeddfu yn ystod y tymor nesaf i gynnal
refferendwm rhwymol ynghylch a ydym yn cadw neu'n diddymu llywodraeth a senedd
ddatganoledig Cymru.
[Os derbynnir gwelliant 3, caiff gwelliant 4 ei ddad-ddethol]
Gwelliant 4 - Rebecca Evans (Gwyr)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn croesawu arweinyddiaeth gref ac
effeithiol Llywodraeth Cymru yn ystod pandemig COVID-19;
2. Yn ystyried mai penderfyniadau a
negeseuon ar y cyd gan bedair gweinyddiaeth y Deyrnas Unedig fydd y ffordd
fwyaf effeithiol o fynd i'r afael â heriau'r pandemig i'n dinasyddion a'n
busnesau; a
3. Yn credu mai'r ffordd orau o gynnal
buddiannau Cymru yw drwy barhau i fod yn aelod o Deyrnas Unedig ddiwygiedig,
gan alluogi llywodraethau i weithredu mewn modd cydgysylltiedig.
Gwelliant 5 - Neil Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu y dylid cael gwared ar y Senedd.
Gwelliant 6 - Neil Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i geisio hawl
gyfansoddiadol i ganiatáu i'r Senedd ddeddfu yn ystod y tymor nesaf i gynnal
refferendwm rhwymol ar ei datsefydlu.
Gwelliant 7 - Neil McEvoy (Canol De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu y dylai Cymru gael ei chyfansoddiad
a'i deddf hawliau ei hun.
Gwelliant 8 - Neil McEvoy (Canol De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu y dylid arfer sofraniaeth Cymru ar
lefel gymunedol a chenedlaethol, gan gynnwys defnyddio refferenda rhwymol drwy
hawl y cyhoedd i gynnig.
Math o fusnes: Dadl
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 03/06/2021
Angen Penderfyniad: 15 Gorff 2020 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Prif Aelod: MSS Sian Gwenllian