NDM7355 Dadl: Cyflwyno terfynau cyflymder 20mya yng Nghymru
NDM7355 Dadl: Cyflwyno terfynau cyflymder 20mya yng Nghymru
NDM7355 Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn croesawu adroddiad y Tasglu a gafodd ei
gadeirio gan Phil Jones yn nodi argymhellion ynghylch sut i newid y terfyn
cyflymder diofyn ar gyfer ffyrdd cyfyngedig yng Nghymru i 20 milltir yr awr.
2. Yn nodi’r ymchwil rhyngwladol sy’n
dangos y manteision o ran diogelwch ar y ffyrdd, gan gynnwys gostyngiad yn
nifer y marwolaethau ymhlith plant, yn sgil lleihau terfynau cyflymder diofyn i
20 milltir yr awr.
3. Yn cydnabod y ffaith bod Llywodraeth
Cymru wedi cyflwyno prosiectau peilot ynghylch terfynau 20 milltir yr awr, cyn
cyflwyno terfyn cyflymder diofyn o 20 milltir yr awr ar draws Cymru, a’r
manteision a fydd yn deillio o hyn i gymunedau yn y dyfodol.
4. Yn cefnogi bwriad Llywodraeth Cymru
i gychwyn ymgynghori ynghylch y bwriad i lunio gorchymyn drwy offeryn statudol
(lle y bydd yn ofynnol derbyn cymeradwyaeth gan benderfyniad y Senedd) i
leihau’r terfyn cyflymder cyffredinol ar gyfer ffyrdd cyfyngedig i 20 milltir
yr awr.
Anfonwyd adroddiad y Tasglu drwy e-bost at yr
Aelodau ar 8 Gorffennaf 2020.
Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:
Gwelliant 1 - Sian
Gwenllian (Arfon)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i nodi ei chynigion
fel rhan o'r ymgynghoriad i sicrhau bod gan asiantaethau gorfodi yr adnoddau
priodol i ymateb i'r gorchymyn arfaethedig.
Math o fusnes: Dadl
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Llywodraeth;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 03/06/2021
Angen Penderfyniad: 15 Gorff 2020 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Prif Aelod: Rebecca Evans AS