P-05-993 Gwnewch y sector manwerthu'n gwbl hygyrch i bobl anabl

P-05-993 Gwnewch y sector manwerthu'n gwbl hygyrch i bobl anabl

Wedi'i gwblhau

 

P-05-993 Gwnewch y sector manwerthu’n gwbl hygyrch i bobl anabl

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Angharad Paget-Jones, ar ôl casglu cyfanswm o 173 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:         

Yn ystod pandemig Covid-19, mae llawer o siopau hanfodol wedi defnyddio dulliau diogelwch sydd wedi eithrio llawer o bobl anabl. Ni chafodd pobl â nam ar y golwg eu cynnwys yn y slotiau siopa blaenoriaeth cyn diwedd mis Mai. Mae’r holl arwyddion a marciau llawr yn bur weledol, sy’n dda i ddim os oes gennych olwg gwan neu ddim golwg. Nid yw systemau un ffordd mewn siopau’n ddigon llydan i ddefnyddwyr cadair olwyn ac mae cilfachau i’r anabl yn cael eu defnyddio fel lle i bobl giwio.

 

Gwybodaeth Ychwanegol

Wrth i’r cyfyngiadau symud gael eu llacio, mae pobl anabl yn wynebu mwy o heriau. Mae bysiau a threnau wedi selio cilfachau i’r anabl, ni all pobl fyddar ddarllen gwefusau gyda phobl yn gwisgo mygydau wyneb ac, wrth agor bariau, caffis a bwytai, bydd mwy o seddi awyr agored yn bosibl. Mae hyn yn peri mwy o risg i bobl anabl gan fod seddi awyr agored, y rhan fwyaf o’r amser, yn cymryd dros le cyhoeddus ac yn achosi perygl a rhwystr.

 

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 26/01/2021 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Trafododd y Pwyllgor y materion a godwyd ac, yn sgil ymateb Llywodraeth Cymru i’r argymhellion a bennwyd gan y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, yn dilyn ei ymchwiliad i anghydraddoldeb yn ystod pandemig Covid-19, cytunodd i gau'r ddeiseb a diolch i'r deisebydd.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 15/09/2020.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

  • Aberafan
  • Gorllewin De Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

 

 

 

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 03/08/2020