P-05-990 Agor ysgolion ym mis Medi. Cael gwared ar ddysgu cyfunol
P-05-990 Agor ysgolion ym mis Medi. Cael gwared ar ddysgu cyfunol
P-05-990 Agor ysgolion ym mis Medi. Cael gwared ar ddysgu
cyfunol
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan
Martha Ogunremi, ar ôl casglu cyfanswm o 9,266 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Bydd
ysgolion mewn rhannau eraill o'r DU yn agor yn llawn ym mis Medi. Nid oes gan
Lywodraeth Cymru gynlluniau cadarn ar gyfer hyn ac mae'n siarad yn gynyddol am
weithredu dysgu cyfunol yn y tymor hwy. Mae angen i'n plant ddychwelyd i’r
ysgol ym mis Medi er mwyn sicrhau nad yw plant yng Nghymru yn disgyn y tu ôl i
rannau eraill o'r DU, a chaniatáu i rieni weithio a rhoi’r hawl i’w plant gael
addysg go iawn. Nid yw Kirsty Williams wedi meddwl sut y bydd dysgu cyfunol yn
gweithio os bydd angen i rieni weithio. Ni fydd neb am gyflogi rhieni.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Dwyrain Casnewydd
- Dwyrain De Cymru
Statws
Yn ei
gyfarfod ar 17.07.20 penderfynodd y Pwyllgor
Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Ystyriodd
y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i gau'r ddeiseb yng ngoleuni’r
cyhoeddiad diweddar gan y Gweinidog Addysg y bydd ysgolion yng Nghymru yn
dychwelyd yn llawn amser i'r holl ddisgyblion ym mis Medi. Nododd y Pwyllgor
lwyddiant y ddeiseb a diolchodd i’r deisebwyr am godi’r mater hwn.
Gellir
gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r
dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd
ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 17.07.20.
Rhagor o wybodaeth
- Hafan y Pwyllgor Deisebau
- Gweld pob deiseb sydd ar agor
- Gweld pob deiseb mae’r pwyllgor bellach
yn ystyried
- Sut mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 14/07/2020