NDM7345 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Covid-19 a Thrafnidiaeth
NDM7345 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Covid-19 a Thrafnidiaeth
NDM7345 Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn croesawu llacio'r cyfyngiadau diweddar
ar deithio yn ystod coronafeirws.
2. Yn cydnabod effaith andwyol y cyfyngiadau
teithio blaenorol ar berthnasoedd personol, iechyd meddwl a lles pobl, a manwerthwyr.
3. Yn gresynu at fethiant Llywodraeth Cymru i
ddarparu cymorth digonol i weithredwyr bysiau yng Nghymru yn ystod y
pandemig coronafeirws.
4. Yn mynegi siom bod Llywodraeth Cymru wedi
peidio â chefnogi cwmnïau hedfan i hedfan o Faes Awyr Caerdydd.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) diystyru'r angen i gyflwyno gofynion
cwarantin i breswylwyr sy'n teithio i Gymru o'r tu mewn i'r Ardal Deithio
Gyffredin;
b) mynd ati ar frys i adolygu a chynyddu'r
cymorth sydd ar gael i weithredwyr bysiau yng Nghymru, er mwyn eu galluogi i
gynyddu amlder a chapasiti gwasanaethau bysiau i bobl Cymru;
c) hyrwyddo'r broses o sefydlu llwybrau
newydd o Faes Awyr Caerdydd i gyrchfannau diogel ledled y byd er mwyn ei helpu
i lamu yn ôl o'r pandemig coronafeirws.
Gwelliant 1 Rebecca
Evans (Gwyr)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi nad yw Coronafeirws wedi
diflannu er gwaethaf y ffaith bod y trosglwyddiad o fewn cymunedau wedi lleihau
yn sgil y mesurau sydd wedi’u cyflwyno. Mae hyn yn cyfiawnhau dull gofalus
Llywodraeth Cymru o gydbwyso’r peryglon i iechyd y cyhoedd â pheryglon
economaidd, cymdeithasol ac eraill, gan gynnwys teithio.
2. Yn cydnabod y pwysau sylweddol y
mae’r Coronafeirws wedi’i roi ar gyllid Llywodraeth Cymru, a heb
hyblygrwydd ychwanegol gan Lywodraeth y DU, mae buddsoddiad uwch mewn un maes,
fel iechyd, cymorth i fusnesau neu drafnidiaeth yn golygu bod llai o gyllid ar
gael ar gyfer meysydd eraill.
3. Yn croesawu’r pecyn sylweddol o gymorth
brys sydd wedi’i gyflwyno gan Lywodraeth Cymru er mwyn achub cwmnïau bysiau a
threnau yng Nghymru yn ystod y pandemig.
4. Yn cydnabod swyddogaeth bwysig Maes Awyr
Caerdydd yn ystod yr argyfwng, gan helpu i gludo cyflenwadau o gyfarpar diogelu
personol i Gymru.
5. Yn nodi gwaith Llywodraeth Cymru:
a) gyda llywodraethau eraill datganoledig er
mwyn ystyried dull ar draws y pedair gwlad ar gyfer codi cyfyngiadau teithio
rhyngwladol;
b) gyda chwmnïau bysiau ac awdurdodau lleol
er mwyn ystyried cynyddu gwasanaethau mewn modd priodol a rheoli hyn mewn modd
cynaliadwy yn y dyfodol; ac
c) gyda Maes Awyr Caerdydd er mwyn ystyried
llwybrau teithio newydd a diogelu ei ddyfodol fel rhan o system trafnidiaeth
gyhoeddus integredig ar draws Cymru, a hynny er gwaethaf gwrthwynebiad parhaus
gan Lywodraeth y DU mewn maes polisi sydd wedi’i gadw i raddau helaeth er mwyn
sicrhau bod meysydd awyr rhanbarthol oll yn cael eu trin yn yr un modd.
[Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau
2 a 3 ei ddad-ddethol]
Gwelliant 2 Siân
Gwenllian (Arfon)
Dileu pwynt 5(a) a rhoi yn ei le:
'cytuno i sefydlu pontydd awyr i wledydd
eraill pan fydd yn ddiogel gwneud hynny a chadw trefniadau teithio o dan
adolygiad parhaus; '
Gwelliant 3 Caroline
Jones (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 5:
'sicrhau bod gwisgo gorchuddion wyneb yn
orfodol ar bob math o drafnidiaeth gyhoeddus; '
Math o fusnes: Dadl
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 03/06/2021
Angen Penderfyniad: 8 Gorff 2020 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Prif Aelod: Darren Millar AS