Ailarchwilio cofebau mewn mannau cyhoeddus
Inquiry5
Cefndir
Ym mis Mehefin 2020, cytunodd y Pwyllgor
Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu i gynnal
ymchwiliad i edrych ar y ffordd y mae ffigyrau hanesyddol yn cael eu coffáu
mewn mannau cyhoeddus arwyddocaol yng Nghymru.
Wrth edrych ar y mater hwn roedd y Pwyllgor yn awyddus i archwilio sut
mae cymdeithas yn penderfynu pwy sy’n cael eu coffáu; pa egwyddorion y gellid
eu defnyddio i benderfynu ar weithredoedd coffáu; a’r broses y gellid, neu y
dylid, ei dilyn os yw pobl am i enghreifftiau unigol gael eu tynnu i lawr neu
eu newid.
Cyhoeddodd y Pwyllgor
ei adroddiad: “Ar Gof a Chadw? Adroddiad ar bwy sy’n cael eu
coffáu mewn mannau cyhoeddus” (PDF, 2.11MB) ar 25 Mawrth 2021.
Edrychodd
yr adroddiad ar y ddadl ynghylch y gweithredoedd coffáu presennol yng Nghymru, ystyriodd
sut y gellir cefnogi cymunedau ac awdurdodau cyhoeddus yn well wrth ymdrin ag
achosion o gerfluniau neu goffáu dadleuol a chynnig syniadau ynghylch sut rydym
yn coffáu yn y dyfodol.
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 22/06/2020
Dogfennau
- Ar gof a chadw? Adroddiad ar bwy sy’n cael eu coffáu mewn mannau cyhoeddus - Adroddiad
- Ar gof a chadw? Adroddiad ar bwy sy’n cael eu coffáu mewn mannau cyhoeddus - Ymateb Llywodraeth Cymru
PDF 393 KB
Papurau cefndir