P-05-977 Ailagor gwasanaethau deintyddol cyffredinol llawn yng Nghymru fel sydd wedi digwydd yn Lloegr
P-05-977 Ailagor gwasanaethau deintyddol cyffredinol llawn yng Nghymru fel sydd wedi digwydd yn Lloegr
P-05-977 Ailagor gwasanaethau deintyddol cyffredinol
llawn yng Nghymru fel sydd wedi digwydd yn Lloegr
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan
Andrew Bartley, ar ôl casglu cyfanswm o 7,583 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Ar
23 Mawrth, caewyd gwasanaethau deintyddol cyffredinol ar gyfer popeth heblaw am
gyngor, gwrthfiotigau, poenladdwyr ac echdyniadau syml.
Ar 8 Mehefin 2020, caniatawyd i bractisau yn Lloegr ailagor ac roedd lefel y
gwasanaeth yn seiliedig ar eu gallu i gydymffurfio â phrotocolau gweithredu
diogel.
Gwrthodir
y cyfle hwn i gleifion a deintyddion yng Nghymru ac amcangyfrifir y bydd y
gwasanaeth "arferol" yn ailddechrau ym mis Ionawr 2021.
Gwrthodir
y cyfle i gleifion gael mynediad at driniaeth briodol yng Nghymru. Gwahaniaethu
yw hyn ac mae’n rhaid iddo ddod i ben.
Gwybodaeth
Ychwanegol:
Bydd
practisau mor ddiogel â phosibl. Hefyd, mae pwysau ariannol anferth arnynt a
all olygu y bydd yn rhaid i lawer ohonynt gau, gan waethygu problemau mynediad.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 16/03/2021
penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon
wedi'i chwblhau.
Caewyd y ddeiseb fel rhan o adolygiad o'r holl ddeisebau sy'n cael eu
hystyried ar hyn o bryd yng nghyfarfod olaf y Pwyllgor Deisebau yn y Bumed
Senedd, yng ngoleuni'r etholiad sydd i ddod a'r ystyriaeth a roddwyd i'r mater
hwn hyd yma.
Gellir gweld manylion
llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig
ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei hystyried
gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 17/07/2020.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- De Caerdydd a Phenarth
- Canol De Cymru
Rhagor o wybodaeth
- Hafan y Pwyllgor Deisebau
- Gweld pob deiseb sydd ar agor
- Gweld pob deiseb mae’r pwyllgor bellach
yn ystyried
- Sut mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 02/07/2020