NDM7334 Codi'r Cyfyngiadau Symud

NDM7334 Codi'r Cyfyngiadau Symud

NDM7334 Caroline Jones (Gorllewin De Cymru)

Cynnig bod y Senedd:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru:

a) i gyflymu'r gwaith o godi mesurau'r cyfyngiadau symud;

b) gweithio gyda Llywodraeth y DU i gefnogi dull gweithredu ar gyfer y DU gyfan;

c) hwyluso ail-agor economi Cymru yn gyflymach;

d) diystyru codi cyfraddau treth incwm Cymru i dalu costau ymestyn y cyfyngiadau symud.

 

Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:

Gwelliant 1 - Neil McEvoy (Canol De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Sicrhau bod y broses o lacio'r cyfyngiadau symud yn digwydd yn ddiogel drwy sicrhau bod y rhaglen lymaf bosibl o brofi, olrhain, ynysu a thrin yn cael ei rhoi ar waith.

 

Math o fusnes: Dadl

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 03/06/2021

Angen Penderfyniad: 24 Meh 2020 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Prif Aelod: Caroline Jones AS