NDM7331 Dadl Plaid Cymru - Yr economi a Covid-19
NDM7331 Dadl Plaid Cymru - Yr economi a Covid-19
NDM7331 Sian
Gwenllian (Arfon)
Cynnig bod y Senedd:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) sefydlu cynllun gwarantu cyflogaeth i bobl ifanc sy’n
dioddef diweithdra o ganlyniad i Covid-19;
b) sefydlu cynllun ailhyfforddiant ac ailsgilio swyddi
wedi’i gynllunio i genfogi’r rhai sydd angen canfod cyflogaeth amgen yn dilyn
yr argyfwng;
c) cynnull cynulliad dinasyddion i drafod sut y dylai
Cymru “Adeiladu Nôl yn Well” yn dilyn profiad o’r argyfwng; a
d) sefydlu "Cronfa Adnewyddu Cymru Gyfan"
gwerth biliynnau o bunnoedd i ariannu’r gwaith o ailadeiladu ein gwlad.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Rebecca
Evans (Gwyr)
Dileu popeth a rhoi’r canlynol yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi’r pecyn o gymorth cyflogadwyedd sydd ar gael
ar hyn o bryd drwy Lywodraeth Cymru, gan gynnwys cynllun Twf Swyddi Cymru, sy’n
gynllun mawr ei barch sydd wedi helpu dros 19,000 o bobl ifanc i gael swyddi o
ansawdd da, a hefyd raglen ReAct sydd wedi bod yn helpu unigolion ers degawd a
mwy i ailhyfforddi ac i ddod o hyd i swyddi newydd.
2. Yn nodi Cronfa Cadernid Economaidd Llywodraeth Cymru,
sy’n werth £500 miliwn, ac sy’n helpu miloedd o fusnesau bach a chanolig yng
Nghymru ar hyn o bryd i gadw i fynd ac i gadw unigolion mewn gwaith, ac a fydd
yn helpu gyda’r adferiad yn y dyfodol.
3. Yn nodi’r gwaith arbenigol ar gynllunio ar gyfer yr
adferiad sy’n cael ei gydgysylltu ar draws Llywodraeth Cymru gan y Cwnsler
Cyffredinol, a hefyd y gwaith y mae Gweinidog yr Economi yn ei wneud i nodi
rhagor o ymyriadau ym maes sgiliau a fydd yn gallu helpu pobl i ailhyfforddi’n
effeithiol yn ystod y misoedd sydd i ddod ac yn ystod y cyfnod adfer.
4. Yn croesawu’r trafodaethau adeiladol y mae Gweinidog
yr Economi wedi’u cael gyda phob parti ynglŷn â sut y gellir cynnig y
rhagolygon gorau posibl i bobl ifanc wrth inni ddod allan o gyfnod y
Coronafeirws.
5. Yn cydnabod bod angen gweithio mewn partneriaeth
gymdeithasol â’r undebau llafur a busnesau i Ailadeiladu’n Well ar gyfer y
dyfodol.
6. Yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru wedi neilltuo bron
£2.5 biliwn ar gyfer ei hymateb i Covid-19 ers mis Mawrth 2020, yn nodi hefyd
faint yr argyfwng economaidd sy’n wynebu’r Deyrnas Unedig gyfan ac yn galw ar
Lywodraeth y DU i ddatblygu pecyn sylweddol i ysgogi’r economi a fydd yn gallu
ategu’r gwaith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i greu adferiad gwyrdd a
theg.
[Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2, 3, 4 a 5
eu dad-ddethol]
Gwelliant 2 – Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Yn is-bwynt (a), dileu 'cyflogaeth' a rhoi yn ei le
'prentisiaeth'.
Gwelliant 3 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnwys ar ddiwedd is-bwynt (b):
'a chyflwyno rhaglenni cadw a datblygu sgiliau cyn gynted
ag y bo'n ymarferol yn y sectorau sy'n wynebu'r risg fwyaf er mwyn sicrhau na
chollir y gallu na'r cyfle i uwchsgilio'r gweithlu lleol yn ystod y cyfnod hwn
o lai o weithgarwch.'
Gwelliant 4 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Yn is-bwynt (c), dileu 'cynulliad dinasyddion' a rhoi yn
ei le 'tasglu trawsbleidiol'.
Gwelliant 5 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Dileu is-bwynt d) a rhoi yn ei le:
'sefydlu Cronfa Adfer Cymunedol Covid i gefnogi'r trefi
a'r cymunedau hynny y mae eu heconomïau wedi'u taro galetaf gan y pandemig.'
Gwelliant 6 – Neil
McEvoy (Caol De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Er mwyn ailadeiladu Cymru yn economaidd o ganlyniad i
argyfwng Covid-19, yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) sicrhau bod y cynllun rhyddhad ardrethi busnes
Covid-19 yn cefnogi busnesau sy'n meddiannu eiddo ac nid landlordiaid sy'n
berchen ar yr eiddo hwnnw;
b) rhoi cymorth i'r rhai yn y diwydiant lletygarwch sy'n
talu rhent llawn i gwmnïau tafarndai yn ystod yr argyfwng;
c) deddfu i alluogi cwmnïau o Gymru i wneud cais
llwyddiannus am gontractau sector cyhoeddus Cymru; a
d) cyfeirio'i pholisi economaidd tuag at adferiad a gaiff
ei arwain gan allforio bwyd a diod drwy greu diwydiant chwisgi cyflawn.
Math o fusnes: Dadl
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Cyhoeddwyd gyntaf: 03/06/2021