P-05-971 Dylid llacio'r cyfyngiadau a gyflwynwyd gan ddeddfwriaeth COVID-19 er mwyn caniatáu i bobl deithio yng Nghymru
P-05-971 Dylid llacio'r cyfyngiadau a gyflwynwyd gan ddeddfwriaeth COVID-19 er mwyn caniatáu i bobl deithio yng Nghymru
P-05-971 Dylid llacio’r cyfyngiadau a gyflwynwyd gan
ddeddfwriaeth COVID-19 er mwyn caniatáu i bobl deithio yng Nghymru
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan
Sean Murphy, ar ôl casglu cyfanswm o 15,192 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Ar
29 Mai, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru newidiadau i’r cyfyngiadau a gyflwynwyd
gan y rheoliadau COVID-19. Cafodd y rheolau eu llacio ond mae gofyniad i bobl aros
yn lleol o hyd. Mae’r rheolau hyn yn atal teuluoedd sy’n byw yn bell o’i gilydd
rhag cwrdd ac yn atal y rhan fwyaf o bobl rhag ymarfer corff ar lan y môr neu
yng nghefn gwlad. Nid oes dim rheswm pam na all pobl gadw pellter cymdeithasol
yn haws yn yr awyr agored. Mae’r cyfyngiadau wedi’u llacio eisoes yn Lloegr ac
yng Ngogledd Iwerddon.
Gwybodaeth
Ychwanegol:
https://llyw.cymru/canllawiau-ar-y-newidiadau-i-reoliadaur-coronafeirws-o-1-mehefin#section-43071
https://llyw.cymru/rheoliadau-diogelu-iechyd-cyfyngiadau-coronafeirws-cymru-2020-fel-yu-diwygiwyd
https://www.nidirect.gov.uk/articles/coronavirus-covid-19-overview-and-advice
https://www.gov.uk/coronavirus
Statws
Yn
ei gyfarfod ar 07/07/2018 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon
wedi'i chwblhau.
Trafododd
y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf ochr yn ochr â P-05-989 Cadw'r cyfyngiadau a osodwyd gan
ddeddfwriaeth Covid 19, caniatáu teithio o fewn radiws o 5 milltir yn unig yng
Nghymru a chytunodd i nodi cryfder y teimlad a
fynegwyd trwy nifer y bobl a lofnododd y ddeiseb a'r sylwadau pellach a
ddarparwyd gan y deisebydd, ond caewyd y ddwy ddeiseb gan fod y cyfyngiadau
teithio y cyfeiriwyd atynt wedi'u llacio ar 6 Gorffennaf.
Gellir
gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r
dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd
ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 07/07/2020.
Senedd Constituency and Region
- De Caerdydd a Phenarth
- Canol De Cymru
Rhagor o wybodaeth
- Hafan y Pwyllgor Deisebau
- Gweld pob deiseb sydd ar agor
- Gweld pob deiseb mae’r pwyllgor bellach
yn ystyried
- Sut mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 30/06/2020