P-05-968 Talu grantiau Coronafeirws i bob busnes sy'n gymwys i gael Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach, yr un fath â gweddill y DU
P-05-968 Talu grantiau Coronafeirws i bob busnes sy'n gymwys i gael Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach, yr un fath â gweddill y DU
P-05-968 Talu grantiau Coronafeirws i bob busnes sy'n
gymwys i gael Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach, yr un fath â gweddill y DU
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan
Simon Hill, ar ôl casglu cyfanswm o 360 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Ar 17 Mawrth 2020
cyhoeddodd y Canghellor y byddai pob busnes bach â llai na 9 o weithwyr ac sy’n
gymwys i gael Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach yn cael grant o £10,000 (y
Gronfa Grantiau i Fusnesau Bach).
Ar 8 Ebrill, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru
ganllaw diwygiedig o ran llety hunanarlwyo. Mae'r newid hwn mewn polisi wedi
eithrio miloedd o fusnesau dilys rhag cael cyllid grant sydd ei angen arnynt yn
druenus, gan nad oes ganddynt incwm yn ystod argyfwng y Coronafeirws.
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae Llywodraeth Cymru
wedi gorfodi pob busnes llety gwyliau i gau oherwydd argyfwng y Coronafeirws,
ac mae'r holl leoedd a gadwyd wedi’u canslo. Erbyn hyn, nid oes gan y busnesau
hynny unrhyw incwm ond maent yn dal i orfod gwario ar ariannu a chynnal a
chadw'r eiddo, a gallai hynny beri caledi ariannol mawr.
Yng ngweddill y DU, mae pob awdurdod lleol wedi
talu'r cyllid grant i fusnesau gosod gwyliau hunanarlwyo. Mae'n annheg iawn nad
yw'r grantiau hyn a ariennir yn ganolog yn cael eu cymhwyso'n gyfartal ledled y
wlad, ac yn groes i addewid y Canghellor.
Mae'r newid hwn mewn polisi eisoes yn achosi
problemau yn yr ardal, fel y gwelir yn yr erthygl hon yn y wasg leol: https://www.dailypost.co.uk/news/north-wales-news/second-home-crackdown-hitting-genuine-18139173
Llofnodwch i ofyn i Lywodraeth Cymru ddiddymu'r
newid polisi hwn a dosbarthu'r Gronfa Grantiau i Fusnesau Bach yn deg fel y
gwnaed yng ngweddill y DU.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Dwyfor Meirionnedd
- Canolbarth a Gorllewin Cymru
Statws
Yn ei gyfarfod ar 17.07.20 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb
hon wedi'i chwblhau.
Gan fod llety
hunanarlwyo bellach yn gallu ailagor yng Nghymru, ac yn absenoldeb sylwadau
pellach gan y deisebydd, cytunodd y Pwyllgor i beidio â chymryd unrhyw gamau
pellach a chau'r ddeiseb.
Gellir gweld
manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau
cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei
hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 07.07.20.
Rhagor o wybodaeth
- Hafan y Pwyllgor Deisebau
- Gweld pob deiseb sydd ar agor
- Gweld pob deiseb mae’r pwyllgor bellach
yn ystyried
- Sut mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 18/06/2020