P-05-966 STOPIWCH yr isafbris am alcohol

P-05-966 STOPIWCH yr isafbris am alcohol

Wedi'i gwblhau

 

P-05-966 STOPIWCH yr isafbris am alcohol

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Raymond Mainwaring, ar ôl casglu cyfanswm o 64 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:       

Stopiwch yr isabris am alcohol. NID yw pobl Cymru wedi pleidleisio dros y gyfraith WIRION hon. Nid oes UNRHYW dystiolaeth yn unrhyw le yn y byd bod hyn yn gweithio. Y cyfan y bydd yn ei wneud yw cosbi’r rhai llai cefnog a phensiynwyr, ni fydd pobl sy’n ennill cyflog da fel aelodau’r Llywodraeth yn teimlo effaith y ddeddf a orfodir arnom. Nid yw’r treial a wnaed yn yr Alban wedi llwyddo i leihau’r maint o alcohol a yfir, os unrhyw beth, mae wedi arwain at gynnydd yn nifer y bobl sy’n troi at gyffuriau a chynnydd mawr mewn dwyn o siopau. Ydyn ni eisiau hyn i Gymru? Pryd fydd y Llywodraeth yn dysgu nad yw unrhyw ddull o wahardd yn gweithio? Ystyriwch hanes.

 

A drink shelf at a bar

 

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 07/07/2020 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a, gan nodi mai dim ond yn ddiweddar y cyflwynwyd yr Isafbris Uned ar gyfer alcohol a bod astudiaethau i'w ganlyniadau a'i effeithiolrwydd yn cael eu cynnal, cytunwyd i wneud yr hyn a ganlyn:

·         nodi’r teimladau a fynegwyd yn y ddeiseb a’r ymateb gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol;

·         rhannu’r ddeiseb â’r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon i'w thrafod yn ystod eu gwaith craffu ar ôl deddfu; a

·         chau'r ddeiseb yn sgîl y ffaith nad oes llawer rhagor y gellir ei wneud ar hyn o bryd. 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 07/07/2020.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

  • Ogwr
  • Gorllewin De Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 20/05/2020