P-05-963 Dylid ei gwneud yn ofynnol i archfarchnadoedd roi unrhyw fwyd sydd dros ben i elusennau

P-05-963 Dylid ei gwneud yn ofynnol i archfarchnadoedd roi unrhyw fwyd sydd dros ben i elusennau

Wedi gwblhau

 

P-05-963 Dylid ei gwneud yn ofynnol i archfarchnadoedd roi unrhyw fwyd sydd dros ben i elusennau

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan ‘Crosskeys My World My Home Group’, ar ôl casglu cyfanswm o 84 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:         

​​Ledled y byd, mae traean o'r holl fwyd a gynhyrchir yn flynyddol yn cael ei wastraffu. Yn y DU, mae hynny'n cyfateb i oddeutu 9.5 miliwn tunnell, sy'n wastraff enfawr o adnoddau ac yn sefyllfa sy'n rhoi pwysau diangen ar ein hamgylchedd. Er gwaethaf hyn, rhwng 2018 a 2019, bu'n rhaid i elusen Trussell Trust ddosbarthu 1.6 miliwn o barseli i fanciau bwyd ledled y DU, y nifer uchaf erioed. Yn ein barn ni, ni ddylid taflu bwyd i ffwrdd pan mae pobl yn llwgu yn y wlad hon.

 

Ym mis Chwefror 2016, penderfynodd Ffrainc weithredu mewn perthynas â'r broblem o wastraff bwyd, gan orfodi archfarchnadoedd i roi'r holl fwyd sy'n agosáu at ei ddyddiad 'gwerthu erbyn' i elusennau. Mae'r Ddeddf dan sylw bellach yn atal 46,000 tunnell o fwyd rhag cael ei daflu bob blwyddyn, ac wedi arwain at gynnydd o dros 20 y cant mewn rhoddion i fanciau bwyd yn Ffrainc.

 

Yn 2019, cafodd y gyfraith hon ei hymestyn i gynnwys y diwydiant arlwyo sefydliadol a'r diwydiant bwyd-amaeth. Credwn y GALLWN WNEUD YR UN PETH yma yng Nghymru, a hynny drwy arbed bwyd bwytadwy ac atal archfarchnadoedd, bwytai cadwyn a chyflenwyr bwyd ein cenedl rhag anfon bwyd da i safleoedd tirlenwi. Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi bod yn gweithio gyda Fare Share Cymru i ailddosbarthu bwydydd sy'n cyfateb i dros 8 miliwn o brydau ers 2011.

 

Drwy fabwysiadu'r datrysiad a ddefnyddir yn Ffrainc, gallwn gymryd cam llawer mwy sylweddol tuag at roi terfyn ar newyn yng Nghymru, yn ogystal â diwallu nod Llywodraeth Cymru o haneru gwastraff bwyd erbyn 2025. Byddai hynny hefyd yn ein rhoi ar y llwybr i fod yn ddiwastraff erbyn 2050.

 

Llofnodwch y ddeiseb hon yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i basio Deddf yn debyg i'r un yn Ffrainc, a hynny er mwyn cymryd safiad YN ERBYN gwastraff bwyd ac O BLAID y rhai sydd mewn angen.

 

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar y lincs a ganlyn:

Deddf gwastraff bwyd Ffrainc yn cael eu hymestyn i fusnesau bwyd-amaeth ac arlwyo

https://iegpolicy.agribusinessintelligence.informa.com/PL222646/Frances-food-waste-law-extended-to-agrifood-and-catering-businesses

A yw Deddf Gwastraff Bwyd arloesol Ffrainc yn Gweithio?

https://pulitzercenter.org/reporting/frances-groundbreaking-food-waste-law-working

Cyfraith Ffrainc yn gwahardd gwastraff bwyd gan archfarchnadoedd

https://www.theguardian.com/world/2016/feb/04/french-law-forbids-food-waste-by-supermarkets

Nod Llywodraeth Cymru yw haneru gwastraff bwyd erbyn 2025

https://environmentjournal.online/articles/welsh-government-aims-halve-food-waste-2025/

Trussell Trust - https://www.trusselltrust.org/

Fare Share Cymru - http://www.fareshare.cymru/cy/home/

WRAP Cymru - http://www.wrapcymru.org.uk/

 

A supermarket fridge shelf

 

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 12/01/2021 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Ailadroddodd y Pwyllgor ei fod yn cefnogi’r ddeiseb. Yn sgil y ffaith bod Llywodraeth Cymru yn ceisio pwerau trwy Fil Amgylchedd y DU a fyddai’n ei galluogi i fynnu bod bwyd dros ben yn cael ei ailddosbarthu, a’r ffaith bod y Bil hwnnw’n mynd trwy Senedd y DU ar hyn o bryd, cytunodd y Pwyllgor nad oedd unrhyw beth pellach y gallai wneud ar y mater ar hyn o bryd. Cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 23/06/2020.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

  • Islwyn
  • Dwyrain De Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

         

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 12/05/2020