P-05-962 Diwygiad brys i ymestyn yr oedran y ceir hawl i gymorth addysgol ychwanegol o 25 i 26 ac i ddiffinio pandemig Covid-19 yng nghanllawiau'r Llywodraeth fel amgylchiad eithriadol

P-05-962 Diwygiad brys i ymestyn yr oedran y ceir hawl i gymorth addysgol ychwanegol o 25 i 26 ac i ddiffinio pandemig Covid-19 yng nghanllawiau'r Llywodraeth fel amgylchiad eithriadol

Wedi'i gwblhau

 

P-05-962 Diwygiad brys i ymestyn yr oedran y ceir hawl i gymorth addysgol ychwanegol o 25 i 26 ac i ddiffinio pandemig Covid–19 yng nghanllawiau'r Llywodraeth fel amgylchiad eithriadol

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Mike Charles, ar ôl casglu cyfanswm o 537 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:         

​Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i gyfarwyddo ein Llywodraeth i ddiwygio'r Ddeddf Dysgu a Sgiliau ar frys er mwyn caniatáu i gyllid mewn colegau arbenigol gael ei ymestyn o 25 oed i 26 i'r rhai y mae  pandemig Covid19 yn effeithio arnynt ac i ddileu neu ddiwygio ar frys ei dogfen ganllaw, rhif: 221/2017 Tachwedd 2017 fel y caiff argyfwng Covid19 ei ddiffinio fel amgylchiad eithriadol.

 

Gwybodaeth Ychwanegol

Ymhen amser, bydd Deddf ADY 2018 yn newid y gyfraith, ond ni all pobl ifanc ag anghenion cymhleth aros. Mae penderfyniadau ynghylch pa mor hir y gellir eu cefnogi mewn colegau arbenigol yn cael eu gwneud heddiw. Mae ysgolion a cholegau sydd wedi cau neu’n gweithredu mewn ffordd gyfyngedig iawn yn colli amser hollbwysig. O ran y rhai ag anghenion cymhleth, cyfyngir ar eu gallu anhepgor i gael mynediad at adnoddau dysgu. Mae pobl ag anghenion cymhleth yn aml yn dysgu drwy fod allan yn yr amgylchedd i ddatblygu annibyniaeth bywyd a sgiliau cyflogadwyedd hanfodol. Mae’r ystafell ddosbarth y tu allan ond mae hyn bellach yn cael ei gyfyngu i raddau helaeth. Mae Covid19 yn newid y gallu hwn i ddysgu mewn ffordd sylweddol.

 

Mae llawer o rieni a phobl ifanc yn ofni bod hyn yn un flwyddyn o’r ddwy sy’n agored iddynt. Er bod y canllawiau yn caniatáu ar gyfer amgylchiadau eithriadol, cânt eu dehongli’n ymarferol fel cyfyngiad o ddwy flynedd ar y ddarpariaeth ac nid ydynt yn diffinio’n ddigonol yr hyn a fyddai’n gyfystyr ag amgylchiad eithriadol. Fodd bynnag, dim ond hyd at 25 oed y mae'r gyfraith yn caniatáu cymorth ac mae angen newid hyn ar frys er mwyn rhoi cyfle arall i'r rhai yr effeithir arnynt yn ystod y pandemig hwn. Cyfle am flwyddyn arall â llai o ymyriad.

 

Bydd hyn, fel arall, yn arwain at golli sgiliau a mwy o ddibyniaeth ar y wladwriaeth yn sgil hynny. Nid yw hynny'n ddymunol am gynifer o resymau, yn enwedig y ffaith y byddai colli sgiliau hanfodol yn drychinebus i'r unigolyn dan sylw.

 

Rydym yn galw ar ein Llywodraeth i helpu'r rhai sydd fwyaf agored i niwed. I'w cefnogi am yr hyn y maent wedi'i golli a rhoi cyfle arall iddynt. Cyfle na ddylid ei golli. I lawer, dyma’r gwahaniaeth rhwng bywyd o ddibyniaeth ac annibyniaeth.

 

A young woman writing in an exam

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 15/09/2020 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Trafododd y Pwyllgor ddiweddariadau pellach am y ddeiseb a nododd y wybodaeth a ddarparwyd gan y Gweinidog Addysg ynghylch sut mae Llywodraeth Cymru wedi cyfathrebu â cholegau Addysg Bellach arbenigol, a’r ceisiadau am estyniad a gymeradwywyd hyd yma.

 

Gan gydnabod pryderon y deisebydd am y canllawiau, sy’n mynd ymhellach na’r ddeiseb, cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 09/06/2020

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

  • De Caerdydd Phenarth
  • Canol De Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

         

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 02/06/2020