Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Masnach 2020

Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Masnach 2020

Cyflwynwyd Bil Masnach 2019-21 (y Bil) [Saesneg yn unig] yn Nhŷ'r Arglwyddi ar 29 Mawrth 2020.

 

Roedd y Bil yn ddarostyngedig i'r broses cydsyniad deddfwriaethol o dan Reol Sefydlog 29. Mae hwn yn fater lle mae Llywodraeth y DU yn gofyn am gydsyniad Senedd Cymru i ddeddfu ar fater a allai ddod o fewn cymhwysedd y Senedd fel arfer.

 

Gosododd Llywodraeth Cymru Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil gerbron y Cynulliad Cenedlaethol ar 2 Ebrill 2020.

 

Mae'r Pwyllgor Busnes wedi cyfeirio'r Memorandwm at y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol, a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, a bydd angen cyflwyno adroddiad arno erbyn dydd Iau 1 Hydref 2020 (Diwygiedig ar 29 Mehefin 2020).

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ei adroddiad ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar 30 Gorffennaf 2020.

 

Ar 1 Hydref, cyhoeddodd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ei adroddiad ar Fil Masnach 2020: Cydsyniad Deddfwriaethol.

 

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol

 

Ar 4 Tachwedd 2020, gosododd Llywodraeth Cymru Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol.

 

Mae'r Pwyllgor Busnes wedi cyfeirio'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol at y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol, a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, a bydd angen cyflwyno adroddiad arno erbyn dydd Gwener 11 Rhagfyr 2020.

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ei adroddiad ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar 4 Rhagfyr 2020.

Math o fusnes: Cydsyniad Deddfwriaethol

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 16/04/2020

Angen Penderfyniad: 27 Mai 2020 Yn ôl Y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol - Y Bumed Senedd

Dogfennau