P-05-956 ACHUBWCH FEDDYGFEYDD ANGENRHEIDIOL
P-05-956 ACHUBWCH FEDDYGFEYDD ANGENRHEIDIOL
P-05-956 ACHUBWCH FEDDYGFEYDD ANGENRHEIDIOL
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan
Anthony Diblasi, ar ôl casglu cyfanswm o 69 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Rydym yn galw ar i Gynulliad Cenedlaethol Cymru
annog Llywodraeth Cymru i ailystyried cau meddygfeydd
Troed-y-Bryn ym Mhenyrheol a
Lansbury yng Nghaerffili.
Mae gan y ddwy feddygfa gyfanswm o 3,962 o
gleifion cofrestredig rhyngddyn nhw.
Gwybodaeth Ychwanegol
Byddai cau'r rhain yn creu sgil-effaith
wrth i'r cleifion orfod mynd i feddygfeydd eraill.
Byddai amserau aros hirach am apwyntiadau a/neu
fynediad cyfyngedig oherwydd y niferoedd.
Mae gwaith codi tai wedi'i gynllunio ym
Mwrdeistref Caerffili, gan gynnwys Caerffili a'r cyffiniau, a bydd hynny'n creu
cynnydd yn nifer y cleifion cofrestredig y soniwyd amdanynt.
Statws
Yn ei gyfarfod ar
12/05/2020 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
O ystyried y
ffaith bod meddygfa Lansbury a meddygfa Troed y Bryn wedi cau ar 1 Mai yn dilyn
ymdrechion aflwyddiannus i recriwtio meddyg teulu newydd, a’r ffaith bod
cleifion wedi cael eu trosglwyddo i feddygfeydd lleol eraill, cytunodd y
Pwyllgor nad oes llawer o gamau pellach y gallent eu cymryd. Yn sgil hynny,
cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb, gan ddiolch i’r deisebwyr am godi’r mater
hwn.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon
a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 12/05/2020.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
- Caerffili
- Dwyrian De Cymru
Rhagor o wybodaeth
- Dysgwch fwy am broses
ddeisebau'r Cynulliad
- Llofnodwch e-ddeiseb
- Sut mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 07/05/2020