P-05-955 Gwrthwynebu cynnig Costain i weithredu Opsiwn B ar gyfer dargyfeirio'r A465 ym Mryn-mawr

P-05-955 Gwrthwynebu cynnig Costain i weithredu Opsiwn B ar gyfer dargyfeirio'r A465 ym Mryn-mawr

Wedi'i gwblhau

 

P-05-955 Gwrthwynebu cynnig Costain i weithredu Opsiwn B ar gyfer dargyfeirio'r A465 ym Mryn-mawr

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Heads Of the Valley Petition Group, ar ôl casglu cyfanswm o 1,128 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:         

Am y rhesymau a roddir isod, rydym ni sydd wedi llofnodi isod yn gwrthwynebu cynnig Costain i weithredu Opsiwn B ar gyfer dargyfeirio'r A465 ym Mryn-mawr. Mae Costain yn ffafrio opsiwn B a'r bwriad yw iddi gael ei gweithredu ym mis Ebrill 2020.

Ni fydd mynedfa i Fryn-mawr nac allanfa ohoni o'r cwm gorllewinol.

Bydd Opsiwn B yn peri cynnydd dramatig yn y traffig mawr sydd eisoes yn mynd trwy Gendl a Bryn-mawr gan na fydd gan yrwyr sy'n teithio tua'r gorllewin ffordd o ddefnyddio'r A465 o ardaloedd y cwm gorllewinol, e.e. Nant-y-glo, y Blaenau, Abertyleri, Aber-big, Llanhiledd, Blaenafon ac ati.

Bydd goblygiadau i fasnachwyr yn nhrefi Cendl a Bryn-mawr, sydd eisoes yn ei chael yn anodd, gan y bydd traffig sy'n teithio o'r dwyrain yn osgoi'r trefi hyn.

Hefyd, bydd yr effaith amgylcheddol ar y ddwy dref yn annerbyniol oherwydd y cynnydd mewn allyriadau carbon o draffig araf sydd, yn ystod yr oriau brig, yn sefyll yn stond.

Mae cyfyngiad pwysau o 7.5 tunnell ar y ffordd trwy Gendl; fodd bynnag, ni fydd traffig trwm dros 7.5 tunnell yn gallu cyrraedd A465 heb deithio trwy Gendl a Bryn-mawr.

Bydd trafnidiaeth gyhoeddus yn wynebu gwyriad o hyd at chwe milltir i ddefnyddio'r A465.

 

A close up of a car going down the highway

Description automatically generated

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

  • Blaenau Gwent 
  • Dwyrian De Cymru

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 17.07.20 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Yng ngoleuni'r ffaith bod Llywodraeth Cymru a Costain wedi cadarnhau y bydd Opsiwn B yn cael ei weithredu, cytunodd y Pwyllgor nad oes fawr ddim pellach y gallai ei gyflawni ar hyn o bryd. Nododd rwystredigaeth y deisebwyr ond cytunwyd i gau'r ddeiseb.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

 

Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 12.05.20.

 

Rhagor o wybodaeth

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 30/04/2020