Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil y Coronafeirws
Cyflwynwyd y Bil
Coronafeirws [Saesneg yn unig] (y Bil) yn Nhŷ'r
Cyffredin ar 19 Mawrth 2020.
Roedd y Bil yn ddarostyngedig i'r
broses cydsyniad deddfwriaethol o dan Reol
Sefydlog 29. Mae hwn yn fater lle mae Llywodraeth y DU yn gofyn am
gydsyniad Senedd
Cymru i ddeddfu ar fater a allai ddod o fewn cymhwysedd y Senedd fel arfer.
Gosododd Llywodraeth Cymru Femorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil gerbron y Senedd ar 24 Mawrth 2020.
Derbyniwyd y
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Coronafeirws yn y Cyfarfod Llawn ar 24 Mawrth 2020.
Math o fusnes: Cydsyniad Deddfwriaethol
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Llywodraeth;
Cyhoeddwyd gyntaf: 29/04/2022