P-05-948 Achub y caeau gleision yng Nghefn yr Hendy, Meisgyn
P-05-948 Achub y caeau gleision yng Nghefn yr Hendy, Meisgyn
P-05-948 Achub y caeau gleision yng Nghefn yr Hendy,
Meisgyn
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan
Sophie Seymour, ar ôl casglu 696 o lofnodion ar-lein a nifer i’w gadarnhau ar
bapur, sef cyfanswm o 696 o lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Rydym yn galw ar i Gynulliad Cenedlaethol Cymru
annog i Lywodraeth Cymru atal ei chynlluniau i werthu'r caeau gleision yng
Nghefn yr Hendy, Meisgyn ar gyfer 460 o dai. Gofynnwn i Lywodraeth Cymru
ddefnyddio ei phwerau i beidio â gwerthu'r tir ar gyfer codi tai a rhoi'r gorau
i'w chynlluniau ar gyfer y datblygiad y cafwyd caniatâd cynllunio amlinellol ar
ei gyfer yn 2018. Os na ellir atal y datblygiad yn llwyr, gofynnwn am i rai o'r
caeau gael eu gadael yn eu cyflwr naturiol. Gweinidogion Cymru sy'n berchen ar
y tir. Rydym yn annog i Weinidogion Cymru roi sylw i'r Argyfwng Hinsawdd a
ddatganwyd ganddynt a chadw at egwyddorion Deddf Cenedlaethau'r Dyfodol trwy dynnu
yn ôl, neu leihau'n sylweddol, y cynlluniau ar gyfer adeiladu ar y caeau
Cymreig hyfryd hyn.
Mae'r caeau'n ffinio ar Goed-yr-Hendy (coetir hynafol), Afon Clun a Chors y
Pant, sy'n safle gwarchod natur. Mae gan y caeau ddwy dderwen fawr a chyfoeth o
wrychoedd, ac yn rhannau gogleddol y caeau mae nifer dda o lasbrennau coed
derw. Bydd gwaith codi tai yn niweidio'r gwrychoedd a'r glasbrennau. Mae
Coed-yr-Hendy a'r caeau yn gartref i nifer fawr o adar, mamaliaid bach a
phryfed; gwelir adar ac ystlumod yn gyson yn hela eu bwyd uwchben y caeau - ni
ddylem ni fynd â hyn oddi arnyn nhw. Bydd adeiladu ar y caeau hyn yn cael
effaith drychinebus ar fywyd gwyllt lleol a'r system ecolegol leol.
Yng ngoleuni Argyfwng
Hinsawdd y wlad hon, mae cadw ein coed, ein gwrychoedd a'n mannau gwyrdd yn dod
yn bwysicach fyth o gofio sut maen nhw'n amsugno ac yn hidlo carbon deuocsid a
llygryddion aer eraill, ac maen nhw'n helpu gyda draenio dŵr glaw ac yn
helpu i leihau erydiad y pridd. Byddai parhau â ffermio defaid ar y caeau hyn
yn dod â buddion aruthrol i'n hamgylchedd ym Meisgyn a thu hwnt. Dyma gyfle i Weinidogion Cymru fod yn gall am
yr hinsawdd ac achub y safle maes glas hwn.
Gwybodaeth
ychwanegol:
Mae ffermwyr tenant wedi
bod yn ffermio defaid ar y caeau hyn ers degawdau. Hefyd, ers dros 70 o flynyddoedd, mae
teuluoedd lleol wedi bod yn defnyddio'r caeau hyn ar gyfer hamdden a mwynhau
byd natur. Gwnaed cais Maes Pentref yn
2017, ac er ei fod yn bodloni llawer o'r meini prawf cyfreithiol, methodd y
cais yn y pen draw. Fodd bynnag, fe nododd yr Arolygydd fod tystiolaeth glir
bod y safle yn cael ei ddefnyddio ar gyfer chwaraeon a difyrion cyfreithlon.
Mae goblygiadau o ran traffig ac isadeiledd; mae
ysgolion lleol a gwasanaethau iechyd yn debygol o ddioddef yn sgil datblygiad
anghynaladwy. Mae llygredd uchel iawn ar yr A4119, sy'n rhedeg yn ymyl rhai o'r
caeau. Mae ardal rheoli ansawdd aer ar yr A4119 yn union gyfagos i'r safle hwn.
Mae "Adroddiad Cynnydd o Ansawdd Aer 2019" Cyngor Rhondda Cynon Taf
yn dangos bod darlleniadau o Nitrogen Deuocsid (NO2) ar gyfer yr ardal rheoli
ansawdd aer hon wedi bod yn uwch na therfyn cyfreithiol yr UE a'r DU am 12 o'r
13 blynedd diwethaf. Mae miloedd o gartrefi yn cael eu hadeiladu lai na 10
munud i ffwrdd yn y car yng Nghreigiau, Plasdŵr a Llanilid. Rydym yn
cwestiynu'r angen i adeiladu ar y caeau hyn. Nid yw ychwanegu tua 1000 o
drigolion at boblogaeth Meisgyn yn gynaliadwy i'r pentref bach (dim siopau, dim
gwasanaethau iechyd, ac un ysgol gynradd Gymraeg); bydd 460 o dai ychwanegol yn
golygu nifer enfawr o deithiau car newydd i gyrraedd gwasanaethau ac ysgolion.
Mae gan drigolion lleol bryderon bod y cynlluniau caniatâd cynllunio amlinellol
a gyflwynwyd ar ran Gweinidogion Cymru yn 2017 hefyd wedi diystyru agweddau ar
Gynllun Datblygu Lleol Rhondda Cynon Taf - yn benodol trwy beidio ag ymrwymo i
ddarparu ysgol, gan fod mwy na'r 400 o dai a nodwyd, trwy beidio â chynnwys
cyfnewidfa aml-lefel ar wahân i'r A4119, a thrwy geisio adeiladu ar dir yn
union gyferbyn ag Ysgol Llantrisant (nad yw yn y Cynllun Datblygu Lleol). Bydd
gwaith adeiladu yno gollwng mygdarth yn uniongyrchol i'r ysgol a'r maes chwarae
am flynyddoedd, yn ogystal â'r cynnydd yn y traffig - gan greu mwy o lygredd a
pheryglon traffig i blant.
Statws
Yn
ei gyfarfod ar 12/05/2020 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon
wedi'i chwblhau.
Trafododd
y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i gau'r ddeiseb, ar gais y
deisebydd.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y
pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau
ar 12/05/2020.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
- Pontypridd
- Canol De Cymru
Rhagor o wybodaeth
- Dysgwch fwy am broses
ddeisebau'r Cynulliad
- Llofnodwch e-ddeiseb
- Sut mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 18/03/2020