Gwella ffordd yr A465 Rhan 2

Gwella ffordd yr A465 Rhan 2

Cyhoeddodd Archwilydd Cyffredinol Cymru Adroddiad Interim - Gwella ffordd yr A465 Rhan 2 – ym mis Chwefror 2020.

 

Darn 8 cilometr o ffordd rhwng Gilwern a Brynmawr yw’r A465 Rhan 2. Mae’n golygu adeiladu mewn cwm â llethrau serth – Cwm Clydach – sy’n mynd drwy Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae’r gwaith i wella’r ffordd yn rhan o gynllun ehangach i wella 40 cilometr o’r A465 rhwng Hirwaun a’r Fenni y disgwylir iddo gostio oddeutu £1 biliwn ar y cyfan. Bwriedir i’r cynllun gael effaith sylweddol ar fuddsoddi a gweithgarwch economaidd ar hyd coridor Blaenau’r Cymoedd.

 

Mae’r gost derfynol a’r amserlen ar gyfer Rhan 2 yn dal i fod yn ansicr. Roedd y gwaith i fod i gael ei orffen ym mis Medi 2018, ond erbyn hyn disgwylir y bydd hi’n 2021 cyn bod y gwaith wedi’i gwblhau’n llawn. Mae amcangyfrifon Llywodraeth Cymru ym mis Tachwedd 2019 yn awgrymu cost o oddeutu £321.1 miliwn ar y cyfan i bwrs y wlad.

 

Mae’r ffigur o £321.1 miliwn yn llai na’r £336.2 miliwn a amcangyfrifwyd ym mis Ebrill 2019, ond ar ddechrau’r contract dyluniad manwl ac adeiladu ym mis Rhagfyr 2014 roedd Llywodraeth Cymru yn amcangyfrif cost o £223.2 miliwn. Mae rhywfaint o’r cynnydd yn ymwneud â newidiadau dylunio y gofynnodd Llywodraeth Cymru amdanynt a mesurau ychwanegol i fynd i’r afael ag effeithiau amgylcheddol, ond yr heriau peirianegol a chytundebol a brofwyd yn ystod y prosiect sy’n gyfrifol am y rhan fwyaf ohono.

 

Roedd rhaid i’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ohirio ei archwiliad arfaethedig o'r mater hwn yn sgil pandemig Covid-19, ond bu’n craffu ar waith Llywodraeth Cymru ym mis Medi 2020.

 

Sesiwn Dystiolaeth

Dyddiad, Agenda a Chofnodion

Trawsgrifiad

Fideo

1. Llywodraeth Cymru

Andrew Slade
Simon Jones
Andy Falleyn

Dydd Llun 28 Medi 2020

Darllen trawsgrifiad o’r Sesiwn Dystiolaeth

Gwylio’r Sesiwn Dystiolaeth ar Senedd TV

 

Math o fusnes: Arall

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 25/02/2020