NDM7287 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Plant Sy'n Derbyn Gofal
NDM7287 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Plant Sy'n Derbyn Gofal
NDM7287 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
1. Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus i
blant a phobl ifanc sydd wedi cael profiad o'r maes gofal ac Adroddiad
Blynyddol Rhaglen Grŵp Cynghori'r Gweinidog ar Wella Canlyniadau i Blant
ar gyfer 2019.
2. Yn nodi ymhellach bod cyfleoedd bywyd plant sy'n
derbyn gofal a'r rhai sy'n gadael gofal yn sylweddol waeth na'r plant hynny nad
ydynt mewn gofal.
3. Yn gresynu bod nifer y plant sy'n derbyn gofal yng
Nghymru wedi codi 34 y cant yn ystod y 15 mlynedd diwethaf, a bod bron i 10 y
cant o blant mewn gofal wedi bod mewn tri neu fwy o leoliadau.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud y canlynol:
a) adolygu cynlluniau awdurdodau lleol ar frys o ran
lleihau nifer y plant sy'n derbyn gofal;
b) cynorthwyo awdurdodau lleol i recriwtio 550 o
deuluoedd maeth yng Nghymru i lenwi'r bylchau a ganfuwyd gan y Rhwydwaith
Maethu;
c) ymchwilio i gymorth ariannol ac adsefydlu sydd ar gael
i rieni mabwysiadol; a
d) sicrhau bod mynediad i gyrsiau rhianta cadarnhaol am
ddim yn cael ei gynnig i bob rhiant a gwarcheidwad ledled Cymru.
Adroddiad
Blynyddol Rhaglen Grŵp Cynghori'r Gweinidog ar Wella Canlyniadau i Blant
2019
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Sian
Gwenllian (Arfon)
Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod bod yna resymau cymleth tu ôl i lefelau
cynyddol o blant mewn gofal, ond yn credu fod y disgwyliad sydd ar awdurdodau
lleol i osod targedau er mwyn ateb y broblem yn ddatrysiad arwynebol.
Gwelliant 2 - Neil
McEvoy (Canol De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu:
a) mai llwybr cydnabyddedig da allan o ofal yw drwy
gysylltiad o safon uchel rhwng plant sy’n derbyn gofal a’u rhieni;
b) na ddylai cysylltiad gael ei leihau na’i gyfyngu er
cyfleuster i ddarparwyr gofal a gaiff eu talu; ac
c) gall cysylltiad cyfyngedig gadw plant mewn gofal yn
hirach na sydd ei angen.
Gwelliant 3 - Neil
McEvoy (Canol De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod fod pobl ifanc sy’n gadael gofal ac a ddaw’n
rhieni, hefyd yn wynebu’r risg o wahaniaethu ac y gallai fod yn ddefnyddiol
ailedrych ar bob achos plentyn mewn gofal i chwilio am gefndir o wahaniaethu yn
erbyn rhieni a oedd yn cyfrannu at gadw eu plentyn mewn gofal.
Gwelliant 4 - Neil
McEvoy (Canol De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod y dylai’r ysgogiad elw gael ei ddileu o’r
maes gofal plant ac nad cwmnïau preifat yw’r dewis gorau i wasanaethu
buddiannau plant Cymru yn y dyfodol.
Gwelliant 5 - Neil
McEvoy (Canol De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn mynnu bod plant sy’n gwneud honiadau ynghylch camdrin
mewn gofal yn cael eu cymryd o ddifrif ac y cânt eiriolwr, a bod arbenigwr
diogelu plant yn siarad â nhw mewn lle diogel er mwyn trafod yr hyn â godwyd.
Gwelliant 6 - Neil
McEvoy (Canol De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod fod ymchwiliadau o gwynion yn gwadu ffeithiau
mewn adroddiadau asesu a derbyn mewn cysylltiad â phlant sy’n derbyn gofal, fod
yn gyfan gwbl annibynnol a heb i’r cyngor sir y mae’r achwynwr yn cwyno
amdano fod yn talu amdanynt.
Math o fusnes: Dadl
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 04/06/2021
Angen Penderfyniad: 4 Maw 2020 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Prif Aelod: Darren Millar AS