Y Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru)

Y Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru)

Bil Llywodraeth Cymru a gyflwynwyd gan Ken Skates AC, y Gweinidog Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru. Mae’r Pwyllgor Busnes wedi cyfeirio’r Bil i’r Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau.

Gwybodaeth am y Bil

Mae’r Bil yn cynnwys darpariaeth ar gyfer:

Amcan polisi’r Bil yw darparu ystod well o offer i awdurdodau lleol i’w defnyddio wrth gynllunio a darparu gwasanaethau bysiau lleol yn eu hardal, a gwella’r graddau y mae gwybodaeth am wasanaethau bysiau ar gael.

Mae’r Bil yn ceisio diwygio’r fframwaith deddfwriaethol sy’n ymwneud â chynllunio a darparu gwasanaethau bysiau lleol. Yn benodol, mae’n darparu ar gyfer creu Cynlluniau Partneriaeth Cymru (WPS), Cynlluniau Masnachfreinio Cymru (WFS), ac i awdurdodau lleol gynnal eu gwasanaethau bysiau eu hunain. Byddai awdurdodau lleol yn gallu defnyddio unrhyw un neu bob un o’r opsiynau hyn i wella gwasanaethau bysiau yn eu hardal.

Mae Cynlluniau Partneriaeth Cymru yn dod â gweithredwyr ac awdurdodau lleol ynghyd i gynllunio a gweithredu cyfres o gamau a gwelliannau y cytunwyd arnynt mewn rhai meysydd. Gallai hyn gynnwys cydgysylltu o ran amserlenni, gwell gwybodaeth a gwell system docynnau, cerbydau o ansawdd gwell, a bod awdurdod lleol yn darparu cyfleusterau ac yn cymryd camau fel, gwell mannau aros a lonydd bysiau gorfodedig. Ni allai gweithredwyr bysiau nad ydynt yn ymwneud â Chynlluniau Partneriaeth Cymru ddefnyddio’r cyfleusterau gwell na defnyddio mannau aros mewn ardaloedd sydd â chamau ar waith yn ardal y Cynllun. Gall Cynlluniau Partneriaeth Cymru gynnwys gwasanaethau bysiau trawsffiniol. Yn yr achosion hyn, rhaid i awdurdod lleol yng Nghymru ac awdurdod lleol yn Lloegr lunio Cynllun Partneriaeth ar y cyd.

Byddai Cynlluniau Masnachfreinio Cymru yn caniatáu i awdurdodau lleol ddyfarnu’r hawl unigryw i weithredwyr drwy gontractau i gynnal gwasanaethau bysiau yn ardal y fasnachfraint. Gallai awdurdodau lleol benderfynu faint o gontractau masnachfraint y byddent am eu gosod yn eu hardal.

Y darpariaethau yn y Bil i ganiatáu i awdurdodau lleol gynnal eu gwasanaethau bysiau eu hunain drwy gael gwared ar gyfyngiadau ar hyn mewn deddfwriaeth bresennol. Bydd hyn yn caniatáu i awdurdodau lleol, gan weithio ar eu pennau eu hunain neu ar y cyd, gynnal gwasanaethau bysiau yn uniongyrchol yn eu hardaloedd. Gellid rheoli’r gwasanaethau hyn yn fewnol neu drwy gwmni hyd braich.

Mae’r Bil hefyd yn ceisio cyflwyno gofyniad ar weithredwyr bysiau i rannu dau fath o ddata â dwy gynulleidfa. Mae’r Bil yn caniatáu (drwy reoliadau) i Weinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i weithredwyr ddarparu data am wasanaethau bysiau lleol (‘data agored’) y gellid eu defnyddio i roi mynediad i’r cyhoedd at wybodaeth fwy cyson, dibynadwy a chyfoes am wasanaethau bysiau. Mae’r Bil hefyd yn ceisio rhoi pŵer i awdurdodau lleol ofyn am wybodaeth, gan gynnwys am brisiau, refeniw a data o ran teithwyr, gan weithredwyr bysiau ar lwybrau y maent wedi cynnig eu newid neu gael gwarent arnynt.

Mae rhagor o fanylion am y Bil yn y Memorandwm Esboniadol cysylltiedig.

Cyfnod Presennol

 

Tynnwyd y Bil yn ôl

 

Mae’r Bil yng Nghyfnod 1 ar hyn o bryd. Mae eglurhad o gyfnodau amrywiol Biliau’r Cynulliad ar gael yn y Canllaw i Cyfnod Filiau a Deddfau Cyhoeddus.

 

Cofnod o daith y Bil drwy Senedd Cymru

Mae’r tabl a ganlyn yn nodi’r dyddiadau ar gyfer pob cyfnod o daith y Bil drwy Senedd Cymru.

 

Cyfnod

Dogfennau

 

Cyflwyn o'r Bil:

16 Mawrth 2020

 

 

Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru), fel y’i cyflwynwyd

 

Memorandwm Esboniadol

 

Datganiad y Llywydd:

 

Adroddiad y Pwyllgor Busnes ar yr amserlen ar gyfer trafod y Bil:

 

Datganiad Bwriad Polisi - Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru)

 

Geirfa Ddwyieithog

 

 

Cyfnod 1:

Pwyllgo

r yn trafod yr

egwyd orion

cyffredi nol

 

 

Ar 18 Mawrth 2020, trafododd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ei ddull gweithredu ar gyfer Cyfnod 1.

 

Gohiriwyd y gwaith craffu ar y Bil yn sgil y pandemig, ac ar 1 Ebrill cyhoeddodd y Prif Weinidog ddatganiad ysgrifenedig ar ddull y Llywodraeth o ymdrin â deddfwriaeth yng ngoleuni COVID-19. Er na chafodd y Bil ei flaenoriaethu ar gyfer gwaith dilynol, bu'n destun gwaith adolygu parhaus. Ar 15 Gorffennaf 2020, dywedodd Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, sef yr Aelod a oedd yn gyfrifol am y Bil, fod y Bil yn cael ei dynnu yn ôl yn unol â Rheol Sefydlog 26.79.

 

Tynnu'r Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru) yn ôl

 

 

Gwybodaeth gyswllt

Clerc: Robert Donovan

Rhif ffôn: 0300 200 6565

 

Cyfeiriad post:

Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau

Senedd Cymru

Bae Caerdydd

Caerdydd

CF99 1SN

 

Email: SeneddESS@senedd.cymru

 

Math o fusnes: Deddfwriaeth

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Llywodraeth;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 16/03/2020

Papurau cefndir

Ymgynghoriadau