NDM7277 Dadl Plaid Cymru - Datgarboneiddio
NDM7277 Dadl Plaid Cymru - Datgarboneiddio
NDM7277 Sian
Gwenllian (Arfon)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi'r angen i leihau ein hôl troed carbon ac yn
nodi potensial hydrogen fel un ffurf i’n helpu i ddatgarboneiddio.
2. Yn croesawu sefydlu Cymdeithas Masnach Hydrogen Cymru.
3. Yn nodi fod gan Gymru, gyda'i hadnoddau naturiol
helaeth, gyfle i ymuno â'r arloeswyr trwy symud y defnydd o hydrogen ymlaen yn
gyflym er mwyn cael manteision amgylcheddol, iechyd ac economaidd.
4. Yn cydnabod yr astudiaeth sydd eisoes yn cael ei
gynnal i ddefnyddio Ynys Môn fel ardal peilot ar gyfer cynlluniau hydrogen, yn
ogystal a chynlluniau ar y gweill mewn sawl ardal arall o Gymru.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i lunio strategaeth
Gymreig ar hydrogen.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 1 ac ailrifo yn unol â
hynny:
Yn nodi buddsoddiad Llywodraeth y DU yn y sector ynni
hydrogen, gan gynnwys buddsoddiad diweddar o £28 miliwn i brosiectau cynhyrchu
hydrogen carbon isel ledled y DU fel rhan o'r Rhaglen Cyflenwi Hydrogen.
Gwelliant 2 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fuddsoddi mewn seilwaith
trafnidiaeth di-allyriadau, fel trafnidiaeth gyhoeddus wedi'i phweru gan
hydrogen, a gyflwynwyd mewn rhannau eraill o'r DU, fel rhan o strategaeth
ehangach i fynd i'r afael â llygredd aer ac allyriadau carbon.
Gwelliant 3 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i ymgysylltu'n
adeiladol â Llywodraeth y DU i ddatblygu sector ynni hydrogen Cymru, a gweithio
gyda phrifysgolion a busnesau o fewn y sector i sicrhau bod Cymru ar flaen y
gad o ran y dechnoleg newydd hon.
Math o fusnes: Dadl
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 04/06/2021
Angen Penderfyniad: 26 Chwe 2020 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Prif Aelod: Siân Gwenllian AS