Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Pysgodfeydd 2020

Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Pysgodfeydd 2020

Inquiry5

 

Cyflwynwyd Bil Pysgodfeydd (y Bil) yn Nhŷ'r Arglwyddi ar 29 Ionawr 2020.

 

Mae'r Bil yn ddarostyngedig i'r broses cydsyniad deddfwriaethol o dan Reol Sefydlog 29. Mae hwn yn fater lle mae Llywodraeth y DU yn gofyn am gydsyniad  y Senedd i ddeddfu ar fater a allai ddod o fewn cymhwysedd y Senedd fel arfer.

 

Gosododd Llywodraeth Cymru Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil gerbron y Senedd ar 12 Chwefror 2020.

 

Mae'r Pwyllgor Busnes wedi cyfeirio'r Memorandwm at y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig, a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, a bydd angen cyflwyno adroddiad arno erbyn dydd Iau 21 Mai 2020 (Diwygiedig ar 17 Ebrill 2020).

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig ei adroddiad (PDF 366KB) ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar 21 Mai 2020.

 

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol

 

Ar 8 Gorffennaf 2020, gosododd Llywodraeth Cymru Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (PDF 150KB).

 

Mae'r Pwyllgor Busnes wedi cyfeirio'r Memorandwm at y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig, a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, a bydd angen cyflwyno adroddiad arno erbyn dydd Iau 24 Medi 2020 (Diwygiedig ar 6 Gorffennaf 2020)

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig ei adroddiad (PDF 711KB) ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar 22 Medi 2020.

 

Math o fusnes: Cydsyniad Deddfwriaethol

Cyhoeddwyd gyntaf: 19/02/2020

Dogfennau