NDM7266 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Adrannau Brys y GIG
NDM7266 Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi'r pryderon a fynegwyd gan gleifion a
chlinigwyr ledled Cymru ynghylch perfformiad a dyfodol adrannau achosion brys y
GIG.
2. Yn gwrthod cynigion gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf
Morgannwg a allai arwain at roi terfyn ar wasanaethau 24 awr a gaiff eu harwain
gan feddygon ymgynghorol yn adran achosion brys Ysbyty Brenhinol Morgannwg.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymyrryd er mwyn atal
unrhyw achos o israddio neu gau adrannau achosion brys yng Nghymru yn ystod y
Cynulliad hwn.
Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:
Gwelliant 1 - Rebecca
Evans (Gwyr)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
1. Yn cydnabod y datganiad trawsbleidiol ar Ddyfodol
Gofal Brys Diogel yng Nghwm Taf Morgannwg.
2. Yn cydnabod yr angen i’r bwrdd iechyd fod yn agored ac
yn dryloyw wrth ymgysylltu â’r cyhoedd, clinigwyr, y cyngor iechyd cymuned,
cynrychiolwyr etholedig, staff a’u hundebau, i lywio eu penderfyniad ynghylch
darparu pob math o ofal heb ei drefnu yn y dyfodol, gan gynnwys gwasanaethau
brys.
3. Yn cydnabod bod yn rhaid i unrhyw ddarpariaeth gofal
heb ei drefnu fod yn gadarn, yn ddiogel ac yn gynaliadwy.
Yr
Ymgyrch dros Ofal Brys Diogel ar draws Cwm Taf Morgannwg
Gwelliant 2 - Sian
Gwenllian (Arfon)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fabwysiadu cynllun
cynhwysfawr ar gyfer cynyddu'r gweithlu clinigol, gyda ffocws penodol ar
arbenigeddau ac ardaloedd daearyddol y mae'n anodd recriwtio iddynt, megis mewn
adrannau achosion brys, fel na ellir byth ddefnyddio prinder staff i gyfiawnhau
cau a newid gwasanaethau.
Gwelliant 3 - Neil
McEvoy (Canol De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cefnogi adran damweiniau ac achosion brys barhaol
gydag adnoddau llawn yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg.
Gwelliant 4 - Mick
Antoniw (Pontypridd)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gwrthod cynigion gan Fwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg i
ddod â gwasanaethau damweiniau ac achosion brys 24 awr o dan arweiniad meddygon
ymgynghorol yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg i ben ac yn galw ar y Bwrdd Iechyd i:
a) diystyru cau'r gwasanaeth damweiniau ac achosion brys
yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg neu sefydlu uned mân anafiadau 24 awr yn lle'r
gwasanaeth damweiniau ac achosion brys presennol;
b) adfer yr opsiwn o gynnal gwasanaeth damweiniau ac
achosion brys llawn o dan arweiniad meddygon ymgynghorol yn Ysbyty Brenhinol
Morgannwg, Ysbyty'r Tywysog Siarl ac Ysbyty Tywysoges Cymru;
c) cyflwyno cynigion eraill ar gyfer gwasanaethau iechyd
cymunedol, gan gynnwys gwelliannau i'r gwasanaeth meddygon teulu y tu allan i
oriau ac ymestyn oriau agor yr uned mân anafiadau yn Ysbyty Cwm Rhondda ac
Ysbyty Cwm Cynon, a allai leddfu'r pwysau ar bob un o'r tair adran damweiniau
ac achosion brys.
Cyd-gyflwynwyr
Dawn
Bowden (Merthyr Tudful a Rhymni)
Huw
Irranca-Davies (Ogwr)
Vikki
Howells (Cwm Cynon)
Math o fusnes: Dadl
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 04/06/2021
Angen Penderfyniad: 12 Chwe 2020 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Prif Aelod: Darren Millar AS