NDM7239 Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod - Pwyntiau Gwefru Cerbydau Trydan
NDM7239 Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod - Pwyntiau Gwefru Cerbydau Trydan
NDM7239 David
Melding (Canol De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil sy'n ei gwneud yn ofynnol
i bob cartref newydd a gaiff ei adeiladu gael ei osod ag o leiaf un pwynt
gwefru ceir trydan.
2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai sicrhau bod gan:
(a) bob adeilad preswyl newydd sydd â lle parcio
cysylltiedig fan gwefru trydan wedi'i osod;
(b) bob adeilad preswyl newydd neu sy'n cael ei
adnewyddu'n sylweddol, gyda mwy na 10 o leoedd parcio, lwybrau ceblau ar gyfer
pwyntiau gwefru cerbydau trydan mewn o leiaf 50 y cant o gyfanswm y lleoedd
parcio.
Cefnogwyr
Angela
Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro)
Dai
Lloyd (Gorllewin De Cymru)
David
J. Rowlands (Dwyrain De Cymru)
Jenny
Rathbone (Canol Caerdydd)
Mark
Isherwood (Gogledd Cymru)
Mohammad
Asghar (Dwyrain De Cymru)
Russell
George (Sir Drefaldwyn)
Math o fusnes: Dadl
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 04/06/2021
Angen Penderfyniad: 5 Chwe 2020 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd