NDM7243 Dadl y Blaid Brexit - Pysgodfeydd

NDM7243 Dadl y Blaid Brexit - Pysgodfeydd

NDM7243 Caroline Jones (Gorllewin De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod pwysigrwydd hanesyddol pysgodfeydd i Gymru.

2. Yn croesawu'r ffaith y bydd y Deyrnas Unedig, ar ôl blynyddoedd o ddiffyg gweithredu, yn gadael yr Undeb Ewropeaidd ddiwedd yr wythnos hon.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i sicrhau'r manteision gorau i Gymru o ran pysgodfeydd Cymru wrth i ni gwblhau'r broses Brexit.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Rebecca Evans (Gwyr)

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod pwysigrwydd hanesyddol pysgodfeydd i ddiwydiannau, amgylchedd a chymunedau arfordirol Cymru.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i gymryd yr holl gamau angenrheidiol er mwyn diogelu dyfodol pysgodfeydd Cymru.

 

[Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol]

Gwelliant 2 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Dileu pwynt 2.

 

[Os derbynnir gwelliant 2, caiff gwelliant 3 ei ddad-ddethol]

Gwelliant 3 - Sian Gwenllian (Arfon)

Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:

Yn cydnabod pwysigrwydd sylweddol yr Undeb Ewropeaidd fel cyrchfan ar gyfer cynnyrch bwyd môr Cymru ac yn ceisio sicrhau bod y farchnad hon yn parhau i fod ar agor ac yn hawdd cael gafael arni yn y dyfodol.

Yn galw ar fil pysgodfeydd arfaethedig Llywodraeth y DU i sicrhau bod deddfwriaeth y DU ac unrhyw ddeddfwriaeth ddatganoledig yn darparu rheolaeth pysgodfeydd sy'n wirioneddol gynaliadwy ac atebol ac sy'n lleihau'r effaith ar yr amgylchedd morol ac yn cefnogi cymunedau sy'n ddibynnol ar yr arfordir.

Gwelliant 4 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cydnabod y byddwn, ar ôl gadael yr UE, yn gadael y Polisi Pysgodfeydd Cyffredin ac yn dod yn wladwriaeth arfordirol annibynnol, gan gymryd rheolaeth yn ôl dros ein dyfroedd ym mis Rhagfyr 2020.

Gwelliant 5 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth y DU i: cynyddu'r cyllid ar gyfer pysgodfeydd ledled gwledydd y DU drwy'r senedd bresennol, a chefnogi'r broses o adfywio ein cymunedau arfordirol.

Gwelliant 6 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno strategaeth bysgota newydd a fyddai'n seiliedig ar yr egwyddor o 'gynnyrch cynaliadwy mwyaf', ac a fyddai'n ei gwneud yn ofynnol yn gyfreithiol i Lywodraeth Cymru gynnal cynaliadwyedd pysgod ar gyfer pob stoc.

 

 

Math o fusnes: Dadl

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 04/06/2021

Angen Penderfyniad: 29 Ion 2020 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Prif Aelod: Caroline Jones AS