NDM7244 Dadl Plaid Cymru - Perfformiad y GIG
NDM7244 Dadl Plaid Cymru - Perfformiad y GIG
NDM7244 Sian
Gwenllian (Arfon)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi'r ystadegau perfformiad diweddaraf ar gyfer y
GIG ac yn gresynu at y methiant parhaus i gyrraedd targedau perfformiad ar
draws amrywiaeth o arbenigeddau a gwasanaethau.
2. Yn gresynu at ganslo llawdriniaethau a oedd wedi'u
cynllunio er mwyn ymdrin â phwysau'r gaeaf ac yn credu ei bod yn bosibl
cynllunio ar gyfer ymdrin â phwysau'r gaeaf a sicrhau bod llawdriniaethau a
oedd wedi'u cynllunio yn parhau.
3. Yn credu y dylid llongyfarch staff y GIG a gofal
cymdeithasol am eu perfformiad o dan amgylchiadau anodd.
4. Yn credu y gellir cynnal gwelliannau yn y GIG yn y
tymor hir dim ond:
a) os caiff gwasanaethau gofal cymdeithasol yr un parch
â'r GIG, ac yn gresynu nad yw gwasanaethau gofal cymdeithasol wedi'u hariannu'n
ddigonol ar draul y GIG;
b) os ceir buddsoddiad sylweddol mewn gwasanaethau sy'n
atal salwch;
c) os ceir gwelliannau i amodau gwaith a chynllunio'r
gweithlu er mwyn gwella'r broses o recriwtio a chadw staff y GIG a gofal
cymdeithasol.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 2 ac ailrifo yn unol â
hynny:
Yn gresynu bod rhai o fyrddau iechyd Cymru yn gohirio
recriwtio oherwydd pwysau ariannol sy'n gwaethygu perfformiad gwael a phwysau
ar staff rheng flaen.
Gwelliant 2 - Rebecca
Evans (Gwyr)
Dileu pwynt 4 a rhoi yn ei le:
Yn cydnabod effaith degawd o gyni annheg o gyfeiriad y DU
ar yr adnoddau sydd ar gael i ariannu gwasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys
iechyd a gofal cymdeithasol, ac yn credu mai dim ond trwy’r dulliau canlynol y
gellir cynnal gwelliannau yn y GIG yn y tymor hir:
a) os bydd y GIG a gofal cymdeithasol yn cydweithio fel
partneriaid cyfartal;
b) os bydd buddsoddi yn parhau ar draws y ddwy system i
helpu pobl i gadw’n iach ac allan o’r ysbyty;
c) drwy barhau â’r ffocws ar recriwtio a chadw ein
gweithlu iechyd a gofal, ynghyd â’u llesiant, gyda chymorth y strategaeth ar
gyfer y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol ar y cyd.
[Os derbynnir gwelliant 2, caiff gwelliannau 3 a 4 eu
dad-ddethol]
Gwelliant 3 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Ym mhwynt 4 (a) dileu ', ac yn gresynu nad yw
gwasanaethau gofal cymdeithasol wedi'u hariannu'n ddigonol ar draul y GIG'.
Gwelliant 4 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnwys is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 4:
'os caiff y rhwystrau artiffisial rhwng iechyd meddwl ac
iechyd corfforol eu dileu.'
Gwelliant 5 - Darren
Millar (Gorllewin Clwyd)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu'r cyfleoedd i fuddsoddi adnoddau ychwanegol
yn y GIG yng Nghymru a'r gwasanaethau gofal cymdeithasol er mwyn hybu
perfformiad o ganlyniad i gynnydd mewn termau real yn grant bloc Cymru.
Math o fusnes: Dadl
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 04/06/2021
Angen Penderfyniad: 29 Ion 2020 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Prif Aelod: MSS Sian Gwenllian